Beth yw’r opsiynau i ddarparwyr?

Gall ddarparwyr gyfeirio dysgwyr at yr Urdd er mwyn cwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol yn llwyr trwy’r Hwb wrth greu partneriaeth cryf neu drefniant is-gontractio. Mae gennym strwythur prisio cystadleuol ac yr ydym yn agored i ystyried trefniant a all weithio i chi.

Os ydych yn darparu Sgiliau Hanfodol trwy’r Gymraeg yn barod ac angen cymorth mewn unrhyw ffordd i alluogi eich dysgwyr i lwyddo mae modd i gael trafodaeth am ffyrdd gallwn ni eich helpu. Gall eich dysgwyr ymuno yn ein gweithdai, cael mynediad at recordiadau neu at adnoddau o safon uchel i helpu gyda’ch darpariaeth.

Gwybodaeth Cyffredinol i Ddarparwyr Hyfforddiant 

Beth yw’r HWB? Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y pynciau allweddol cyfathrebu, rhifedd, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd. Mae modd i unigolion ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 2 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall.

Pam gafodd yr HWB ei sefydlu? Sefydlwyd ein Hwb Sgiliau Hanfodol er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr ledled Cymru yr opsiwn o ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth dderbyn hyfforddiant a phrofiad addysgu o’r safon uchaf. Sicrhawn fod y rhaglenni yn cychwyn yn gyson fel bod rhywun yn gallu dechrau ar unrhyw adeg yn y flwyddyn a chwblhau drwy’r iaith Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o sesiynau dysgu’r Hwb yn digwydd yn rhithiol ac felly yn agored i unigolion o bob rhan o Gymru. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn yr un flaenoriaeth â’r Saesneg wrth i ddysgwyr gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol. 

I bwy mae’r HWB? Mae’r Hwb yn agored i ddarparwyr hyfforddiant fedru cyfeirio dysgwyr sy’n dymuno ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Lawrlwythwch pecyn wybodaeth cyflawn i'ch dyfais drwy glicio ar y bwtwm 'Gwybodaeth i Ddarparwyr' isod. 

GWYBODAETH I DDARPARWYR

 

Cysylltwch â ni i drafod ymhellach: hwbsgiliau@urdd.org neu defnyddiwch y ffurflen 'E-bosiwch Ni' isod.

 

E-bostiwch Ni

Cofnod annilys
Cofnod annilys
Cofnod annilys
Invalid entry