Gwyliau Teulu 2026
Y gwyliau teulu perffaith! Cyfle i chi a'ch teulu ymlacio a mwynhau'r holl weithgareddau sydd gan y Gwersyll i'w cynnig, ynghyd a phedwar pryd blasus y dydd, a dim golchi llestri!
Beth yw Gwyliau Teulu Llangrannog?
Rydym yn cynnig dihangfa berffaith i’r teulu cyfan. Dewch i fwynhau dyddiau llawn gweithgareddau ac i edmygu’r olygfa wrth gerdded ar hyd yr arfordir i’r traeth. Anghofiwch am orfod paratoi unrhyw brydau bwyd ac ymlaciwch yn eich ystafelloedd en-suite.
Dyddiadau 2026
| Gwyliau Teulu Haf #1 | 24 o Orffennaf – 26 o Orffennaf 2026 |
| Gwyliau Teulu Haf #2 | 31 o Orffennaf – 2 o Awst 2026 |
| Gwyliau Teulu Eisteddfod y Garreg Las | 31 o Orffennaf – 9 o Awst (optiynau amrywiol) |
| Gwyliau Teulu Haf #3 | 7 – 9 o Awst 2026 LLAWN! |
| Gwyliau Teulu Haf #4 | 28 - 30 o Awst 2026 |
| Gwyliau Teulu Haf Hygyrch | 4-6 o Fedi 2026 |
| Gwyliau Teulu Hydref | 30 o Hydref – 1 o Dachwedd 2026 |
| Gwyliau Teulu Calan | 30 o Ragfyr – 1 o Ionawr 2026 |
Gweithgareddau
Cyrraedd, dadbacio, ymlacio yn barod am benwythnos gyda’r teulu – cewch weld pwy sydd gyflymaf ar y wal ddringo, cyfarfod ein ceffylau, mwynhau golygfeydd godidog, trip i’r traeth – heb anghofio’r hufen iâ!
Llety a Bwyd
Ystafelloedd ensuite gyda gwelyau bync, cyfleusterau gwneud coffi gerllaw yn y lolfeydd, pedwar pryd y dydd wedi eu cognio ar eich cyfer, a dim golchi llestri! Darparir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.
Yr Ardal
Traethau baneri glas, llwybr arfordirol bendigedig, bywyd gwyllt, tafarndai, bwytai cyfagos, teithiau cychod Cei Newydd, dolffiniaid a llawer llawer mwy!
Prisau 2026
|
I gynnwys llety, gweithgareddau a 4 pryd y dydd |
2 noson |
|
Oedolion |
£168 |
|
Plant 8+ |
£146 |
|
Plant 3-7 |
£107 |
|
Plant o dan 3 (0-2 oed) |
Am ddim |
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau teulu Gwersyll Llangrannog ffoniwch 01239 652 140 neu llangrannog@urdd.org
Dyddiadau ddim yn addas?
Os nad ydi’r dyddiadau hyn yn gyfleus, gallwn deilwra gwyliau i griw o deuluoedd, unrhyw dro yn ystod gwyliau’r ysgol – cysylltwch â ni!
Gwyliau Teulu Hygyrch
Mae'r Gwyliau Teulu yma yn dawelach gyda nifer cyfyngiedig o lefydd, gyda prydiau bwyd hirach, amseroedd gweithgareddau hirach, er mwyn gwneud y gwyliau yn fwy hygyrch i blant a anghenion ychwanegol.