Mae’r Gwersyll yn gweithredu ar ethos o ddysgu drwy weithgaredd a chredwn yn gryf bod yr ethos yma wedi profi’n effeithiol wrth ddatblygu hunanhyder unigolion.
Gyda’n hystafelloedd yn cysgu hyd at 6 o bobl gallwch aros gyda ni am bris cystadleuol – a hynny’n cynnwys brecwast blasus! Cysylltwch am argaeledd.
Wrth aros yn y Gwersyll mae holl atyniadau’r ddinas o fewn eich cyrraedd a gyda blynyddoedd o brofiad gallwn eich cynorthwyo i gael y gorau o Gaerdydd.
Lleolir Gwersyll Caerdydd yng nghanol Bae Caerdydd. Gyferbyn ag adeilad eiconig y Senedd, mae’r Gwersyll yn cynnig darpariaeth wych ar gyfer cynhadleddau a chyfarfodydd.