Dewch gyda ni i Disneyland Paris yn 2025!

Cyfle bythgofiadwy i ddisgyblion Bl. 8-9 i fynd ar wyliau gyda'u ffrindiau i un o barciau antur enwocaf y byd, yn ogystal â gweld rhai o brif atyniadau prifddinas Ffrainc, Paris.

Ar gyfer pwy?

Mae'r daith hon ar gyfer disgyblion sydd am fod yn Blwyddyn 8 neu 9 ym mis Hydref 2025, felly yn Blwyddyn 7 neu 8 o hyn o bryd.

Pryd mae'r daith?

Hanner Tymor Hydref 2025

Pa mor hir mae'n para?

Pedwar diwrnod, gan gynnwys dwy noson mewn Gwesty ym Mharis.

Beth yw'r pris?

£649 ar gyfer aelodau'r Urdd - os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma. Bydd blaendal o £99 wrth archebu, a chynllun talu dros gyfnod o 10 mis, neu fe allwch dalu'n llawn. 

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y pris?

  • Trafnidiaeth
  • Croesi o Dover i Calais ar y llong
  • Gwesty, gwely a brecwast am ddwy noson
  • Tocyn 1 x Swper (y noson gyntaf yn y gwesty)
  • Taith gwch ar yr afion Seine
  • Taith bws o amgylch Paris
  • Tocyn 2-ddiwrnod i Disneyland Paris, Disney Studios a Disney Village
  • Staff a gwirfoddolwyr profiadol yn arwain y ffordd
  • Lot fawr o hwyl!

Amserlen y daith


Diwrnod 1
Gadael o leoliadau ar draws Cymru ar gyfer y daith i Calais
Taith Bws o amgylch Paris
Taith Gwch ar yr afon Seine
Cyrraedd y Gwesty
Swper a chyfle i ymlacio

Diwrnod 2
Brecwast
Diwrnod yn Parc Disneyland
Swper yn Disney Village
Sioe Tân Gwyllt yn Parc Disneyland
Nôl i'r Gwesty 

Diwrnod 3
Brecwast
Diwrnod yn Parc Disney 'Studios'
Swper yn Disney Village
Cychwyn ar y daith adref

Diwrnod 4
Croesi Calais i Dover
Cyrraedd nôl adref

Rhestr pacio

  • Pasbort a cherdyn UKGHIC
  • Arian (ewro a sterling)
  • Clustog a blanced ar gyfer cysgu ar y bws
  • DVDs, llyfrau ac adloniant addas
  • Cot law a dilled cynnes

Cwestiynau cyffredin

Pa ddogfennau sydd eu hangen?

Bydd angen dod â phasbort cyfredol a cherdyn UKGHIC; bydd staff yr Urdd yn gofalu am y rhain yn ystod y daith. Mae modd gwneud cais am gerdyn UKGHIC yma: www.ehic.org.uk

Bydd rhaid sicrhau fod gofynion mynediad yn unol a rheolau'r swyddfa dramor :https://www.gov.uk/foreign-travel-advice/france/entry-requirements

Faint o arian gwario sydd ei angen?

Rydym yn argymell dod â €130 a £30 ar gyfer bwyd. Mae arian gwario ar bethau eraill (anrhegion, lluniau) i fyny i chi. Ni fydd aelodau staff yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am arian eich plentyn.

Oes angen archebu yswiriant?

Mae yswiriant yn gynwysedig ym mhris y daith, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gyflwr sy'n bodoli eisoes.

Sut mae'r ystafelloedd yn cael eu sortio?

Wrth archebu mae ffurflen i'w lenwi fewn i nodi pwy ydi'r ffrindiau sydd yn mynychu'r daith; fe fyddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod pawb yn hapus gyda'u ystafelloedd ac efo pwy mae nhw'n rhannu.

Mae'r ystafelloedd yn gymysgedd o ystafelloedd i 3,4 neu 5 yn ddibynnol ar y gwesty.