Agorwyd Canolfan Pentre Ifan ym 1992 fel canolfan addysgol gyda’r pwyslais ar addysg yr amgylchedd. Defnyddir y ganolfan hefyd ar gyfer cyrsiau, priodasau a gan grwpiau ieuenctid.
Hen borthdy Tuduraidd yw’r adeilad, yn dyddio yn wreiddiol o 1485. Mae’r Ganolfan wedi’i hamgylchynu gan dir amaethyddol a choedwigoedd naturiol a cheir awyrgylch heddychlon a chartrefol.
Er taw canolfan addysg yw Pentre Ifan yn bennaf, mae hefyd yn boblogaidd ar gyfer cyrsiau, chynadleddau a phriodasau, ac yn addas ar gyfer grwpiau ieuenctid a gwyliau teulu.
Awydd trefnu gwyliau i grwp neu deulu estynedig!?
Wyddoch chi fod modd aros ym Mhentre Ifan?
Mae lle i 18 gysgu yno felly dewch am wyliau