Beth sydd angen ar fy mhlentyn?

Yma yn y Gwersyll mae amrywiaeth eang o offer technegol arbenigol ar gael i’w fenthyg yn ystod eich cwrs. Yr offer sydd ar gael yw siwt wlyb, dillad glaw, sachau cario ayyb. Os oes gennych chi offer technegol personol mae croeso i chi ddod â’r eitemau yma gyda chi. Byddwch angen hefyd...

  • 2 bâr o hen dreinyrs
  • 2 bâr o drowseri cynnes (dim jîns)
  • 2/3 top cynnes (fleece os yn bosib)
  • 2/3 crys T (ceisiwch osgoi cotwm)
  • Dillad isaf
  • Gwisg/shorts nofio
  • 2 dywel
  • Het a menig cynnes (gaeaf)
  • Dillad glaw
  • Dillad nos
  • Sach gysgu
  • Gorchudd gobennydd
  • Offer ymolchi
  • Bag bin ar gyfer dillad gwlyb
  • Os ar gwrs iaith/ daearyddiaeth – pensil a phapur
  • Esgidiau glaw/ esgidiau cerdded

A oes rhywbeth ni ddylwn eu pacio?

Ni ddylai eich plentyn ddod a’r canlynol

  • Cyllell boced
  • Gemau fideo neu unrhyw ddyfais ddrud (ipad, cyfrifiadur tabled ac ati)
  • Gwm cnoi
  • Chwistrellydd aerosol
  • Tybaco, alcohol neu unrhyw gyffur nas ceir ar bresgripsiwn (dylid nodi unrhyw gyffur sydd ar bresgripsiwn ar y dystysgrif iechyd)
  • Ffôn symudol- Dylid cael caniatâd arweinydd y cwrs cyn dod a ffôn symudol i’r gwersyll. Gall gwersyllwyr ddefnyddio ffôn y swyddfa os oes angen.
  • Peiriannau trydanol symudol e.e. sychwyr gwallt,  tongs gwallt, haearn smwddio.


Ar y llaw arall, mae croeso i’r plant adael eiddo fel camerâu, oriawr ac ati yn ein gofal ni a’u defnyddio fel y bo angen. Rhown label ac enw ar bopeth.

NI FYDDWN YN GYFRIFOL AM DDIOGELWCH NEU UNRHYW DDIFROD I’R EIDDO UCHOD OS DAW PLANT Â HWY I’R GANOLFAN. 

All fy mhlentyn ffonio adref?

Rydym yn annog plant i beidio ffonio adre, yn enwedig ar ddechrau cwrs. Oni bai y clywch oddi wrthym fe fyddwch yn gwybod bod eich plentyn yn iach ac yn mwynhau.

Gallwn eich sicrhau os y bydd angen cysylltu â’r rhieni (e.e. salwch neu hiraeth drwg) fe fyddwn yn gwneud hynny’n syth. Os byddwch am anfon neges at eich plentyn gallwch wneud hynny a chroeso trwy Dderbynfa’r Gwersyll (01678 541000) neu ebost (glan-llyn@urdd.org). Mi fydd y Cyfarwyddwr yn hapus iawn i drosglwyddo’ch neges. 

Beth sy'n digwydd os oes problem gyda'm mhlentyn?

Mae yna rywun ar gael trwy gydol yr amser, ddydd a nos. Ar gyfartaledd mae 1 staff i bob 6/8 plentyn. Mae gwyliwr nos ar ddyletswydd trwy’r nos

Ble fydd fy mhlentyn yn cysgu?

Yn syth wedi cyrraedd y Gwersyll, mi fyddwn yn dangos y plant i’w ystafelloedd. Athrawon fydd yn gyfrifol am lleoli disgyblion, er mwyn sicrhau rhediad esmwyth y cwrs. Mae ystafelloedd athrawon/arweinyddion gerllaw ystafelloedd y plant ac rydym yn sicrhau fod pob plentyn yn gwybod ble i fynd os oes angen cymorth yn ystod y nos.