Stafelloedd_Cilborth_cil.jpg

Llety

Rydym yn gallu cysgu dros 400 o bobl yn ein blociau cysgu 4 seren sydd yn cynnig:

  • 62 ystafell ensuite sydd yn cysgu rhwng 6 i 8
  • 8 ystafell twin ensuite
  • 16 ystafell gyda bloc cawod a thoiledau o safon.

Rhowch wybod eich anghenion wrth archebu, a gwnawn ein gorau i ateb eich gofynion.

lang-meeting.jpg

Ardaloedd Cymdeithasu

Mi allwch ymlacio gyda diod poeth, defnyddio gwasanaeth diwifr, cymdeithasu, gwylio teledu yn un o’n naw lolfa sydd gerllaw eich ystafelloedd cysgu.

food.jpg

Gwasanaeth Arlwyo

Ein nod yw darparu Canolfan Bwyd Diogel ac Iach i bob un o’n cwsmeriaid. Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi gan Gogyddion y Gwersyll gan ddefnyddio cynhwysion tymhorol mwyaf ffres â’r pwyslais ar baratoi a darparu bwyd iachus i’n cwsmeriaid. Defnyddir cynnyrch lleol a Chymreig  lle bynnag y bo hynny’n bosibl a  defnyddir cyflenwyr dibynadwy sydd yn cyflenwi cynnyrch o'r ansawdd uchaf.

Sgôr Hylendid Bwyd - 5
Mae’r sgôr hylendid yn dangos i ba raddau y mae’r gwasanaeth arlwyo yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd.

sgorhylendid_5.jpg

Gwelir enghraifft o fwydlen wythnosol yn y blwch gwyrdd gyferbyn.

Gwefan.jpg

Ystafelloedd Cyfarfod

Gallwn ddarparu dros 15 o ystafelloedd cyfarfod bach a mawr a phob dim sy’n gysylltiedig â chynnal cyfarfod, megis, byrddau gwyn rhyngweithiol, uwchdaflunydd, siartiau ysgrifennu a thechnoleg band llydan a diwifr.

Dysgwch mwy am ddefnydd Llangrannog i Fusnesau