Mae Llio Jones yn brentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon i’r Urdd ers mis Medi. Mae’n dod o  bentref bach o'r enw Llannefydd, ger Dinbych. Fe aeth i Ysgol Gynradd Llannefydd yna i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Fe wnes i benderfynu gwneud prentisiaeth gan ei fod yn gyfle gwych i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd a chael profiad o weithio a phobl newydd a hyfforddi sesiynau. Ac wrth gwrs rwyf wrth fy modd â chwaraeon, felly mae’r brentisiaeth yma yn berffaith i mi.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Y peth rwyf yn ei fwynhau fwyaf am fy mhrentisiaeth yw’r ffaith fy mod yn cyfarfod amrywiaeth o bobl arbennig ac yn dysgu gymaint drwy wneud sesiynau gwahanol er mwyn ddatblygu fy sgiliau mewn mathau amrywiol o chwaraeon.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n teimlo bod cael gwneud prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fraint arbennig. Rwy’n  teimlo ei fod yn bwysig iawn ein bod yn cynnig cymaint o gyfleoedd ag sy’n bosibl i wneud chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg. A thrwy wneud hyn, mae’n hybu rhagor o bobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Dwi wrth fy modd yn treulio amser yn yr awyr agored yn mynd am dro a helpu ar y ffarm. Dwi’n aelod o glwb hoci Rhuthun a chlwb ffermwyr ifanc Llannefydd. A does dim byd dwi yn mwynhau fwy na threulio amser yn cymdeithasu gyda theulu a ffrindiau.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth yma wedi effeithio ar fy natblygiad yn sylweddol. Nid yn unig rwyf wedi datblygu fy sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy gwblhau ymarferion WEST a gwaith cwrs, rwyf hefyd yn fwy hyderus wrth weithio ag eraill a chyfarfod pobl newydd. Dwi hefyd yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth ddelio ag amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth rwyf yn gobeithio parhau i weithio yn y maes chwaraeon a hyfforddi.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Mae ein dyletswyddau yn newid yn wythnosol, ond prif ddyletswyddau fy swydd yw i gynnal clybiau chwaraeon yn fy ardal, unai mewn ysgolion neu mewn clybiau ar ôl ysgol.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Diddorol

Heriol

Bythgofiadwy