Mae Sioned Chidgey yn dod o Ystrad Mynach, Caerffili. Aeth i ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac ar ôl gadael yr ysgol, penderfynodd ymgeisio i wneud prentisiaeth awyr agored yng Nglan-llyn gan fod ganddi ddiddordeb mawr i ddysgu mwy am weithgareddau awyr agored a gwahanol chwaraeon. Ar ôl cwblhau’r prentisiaeth awyr agored, cafodd Sioned y cyfle i barhau gyda’r Urdd fel prentis Chwaraeon Lefel 3 yn ei hardal hi. Sioned yw Prentis y Mis, am ei bod wedi dangos datblygiad aruthrol dros y misoedd diwethaf, ac wedi llwyddo i gwblhau gwaith o safon uchel wrth weithio o adref.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y brentisiaeth?

Rwy'n mwynhau mynd allan i’r gymuned a gweithio gyda chyfranogwyr amrywiol.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei olygu i ti?

Mae ymgymryd â’r phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i mi, oherwydd rwy’n helpu i gadw’r iaith yn gyfoes a pherthnasol, drwy annog pobl iau fy ardal i ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth hon wedi caniatáu i mi ddod yn fwy annibynnol ac dwi wedi magu diddordeb newydd mewn caiacio a phadl-fyrddio.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Rwy'n cynnal sesiynau chwaraeon yn y gymuned ac mewn ysgolion ar gyfer plant o oedrannau amrywiol drwy gydol yr wythnos mewn mathau gwahanol o chwaraeon.

Beth yw dy ddiddordebau y tu allan i’r gwaith?

Rwy'n caru dringo creigiau! Fel rheol, rwy’n mynd bob wythnos. Rwyf hefyd wrth fy modd yn chwarae pêl-rwyd.

Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Nid wyf yn hollol siŵr eto, mae gen i ddiddordeb mewn teithio felly efallai hoffwn wneud rhyw faint o deithio ar ôl i mi orffen fy mhrentisiaeth.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Diddorol, Hwyl, Profiadol

Hoffet ti ychwanegu rywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Eleni, rwyf wedi trosglwyddo o wneud fy mhrentisiaeth yng ngwersyll yr Urdd, Glan-Llyn i'r Adran Chwaraeon yn y Cymoedd a Gwent. Wrth weithio yng Nglan-Llyn, gwelais mai'r her fwyaf oedd bod bron pob agwedd yn newydd i mi, ond yn yr adran chwaraeon rydw i wedi cwrdd â gwahanol heriau fel ail-gychwyn ar glybiau dan amgylchiadau anodd Covid-19 yn ogystal â gweithio o adref.