Amdanom ni

Prentisiaethau Chwaraeon, Awyr Agored a Gofal Plant, yn ogystal â darpariaeth sgiliau hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg a chyrsiau amrywiol i helpu unigolion llwyddo yn y byd gwaith drwy ein prosiect UrddSgilio.

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid i ddatblygu darpariaeth o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg i bobl yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw i feithrin gweithlu hyderus a dwyieithog trwy ddarparu cyfleoedd i bobl i ddysgu, i ddatblygu’n bersonol a chymdeithasol, ac i gynyddu eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Eisiau mwy o wybodaeth neu sgwrs? Cysylltwch: prentisiaeth@urdd.org