Sgwrs gydag Ifan Davies 

Prentis y Mis, Chwefror 2022 

Mae Ifan Davies yn dod o Gaerdydd a gafodd ei addysg yn Ysgol Gymraeg Treganna, ac yna yn Ysgol Uwchradd Plasmawr. Mae Ifan eisoes wedi cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau Lefel 2 gyda’r Urdd, a bellach yn cwblhau prentisiaeth Datblygu Chwaraeon Lefel 3. Dyma ychydig o’i hanes! 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Rwy’n hoff iawn o chwaraeon ac yn mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon amrywiol. Ar ôl gadael yr ysgol, roeddwn eisiau gwneud rhywbeth o fewn chwaraeon, felly pan wnes i weld bod yr Urdd yn gwneud prentisiaeth, wnes i roi cynnig arni! Roeddwn hefyd yn aelod o’r Urdd pan roeddwn yn yr ysgol gynradd ac roeddwn yn cystadlu mewn twrnameintiau’r Urdd fel rygbi. Roeddwn hefyd yn mwynhau mynd i’r eisteddfod. 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth? 

Gweithio gyda phlant a gweld eu sgiliau a’u hyder yn codi. Dwi’n hoffi'r ffaith fy mod i’n gallu gwella sgiliau a thechnegau’r plant dwi’n hyfforddi a gweld eu datblygiad nhw. Dwi hefyd yn mwynhau gwneud chwaraeon trwy’r Gymraeg. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Dwi wedi bod yn siarad Cymraeg trwy fy mywyd ac mae fy nheulu i gyd yn siarad Cymraeg. Trwy wneud y brentisiaeth, rydw i’n gallu siarad Cymraeg gan wneud rhywbeth dwi’n hoffi. Dwi hefyd yn falch iawn fy mod yn cyfrannu i gadw’r iaith i fynd o fewn y byd chwaraeon. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Dwi’n hoff iawn o rygbi ac yn chwarae i fy nghlwb lleol Llandaf. Dwi hefyd yn cefnogi tîm rygbi Caerdydd 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae gwneud prentisiaeth wedi helpu fi i ddatblygu fy hyder a hefyd fy sgiliau cyfathrebu trwy siarad gyda rhieni ac ysgolion. Mae hefyd wedi gwella fy sgiliau hyfforddi ac arweinyddiaeth. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth dwi’n gobeithio parhau gyda’r Urdd i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau. 

Fy nyletswyddau yw darparu chwaraeon i blant trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddatblygu sgiliau chwaraeon y plant. Mae hefyd gennyf gyfrifoldeb i gwblhau fy ngwaith cwrs, mynychu gweithdai a helpu staff eraill yr adran Chwaraeon. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Hwyl, Datblygiad, Mwynhad!