Mae Rhian yn dod o bentref bach Tal-y-bont, 7 milltir i’r gogledd o Aberystwyth. Fe wnaeth mynychu Ysgol Gynradd Talybont ac wedyn Ysgol Uwchradd Penweddig. Bellach, mae'n Cynorthwyydd Dosbarth ac yn cwblhau prentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd.

 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Daeth y cyfle i wneud y prentisiaeth tra'n parhau gyda'm swydd fel Cynorthwyydd Dosbarth yn Ysgol Gynradd Penllwyn. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn chwaraeon felly roeddwn yn barod i ddatblygu fy sgiliau ymhellach gwneud y brentisiaeth.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio arno?

Rwyf yn hoff iawn o weithio gyda phlant a’u gweld yn datblygu wrth fynd o’r Cyfnod Sylfaen i Cyfnod Allweddol 2. Hefyd rwyf yn creadigol iawn felly rwyf yn gallu helpu plant i ddatblygu ei sgiliau creadigol. Mae’r brentisiaeth wedi cadw fi’n brysur iawn ac rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau a gwybodaeth newydd bydd yn fy helpu ar gyfer gwersi/sesiynau chwaraeon.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n browd iawn o’r iaith Gymraeg ac wedi bod yn dysgu trwy’r cyfrwng Cymraeg trwy gydol fy mywyd felly mae’n bwysig i mi parhau i ddysgu yn yr iaith.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Dwi wedi dysgu llawer o sgiliau newydd a sut i hyfforddi o fewn chwaraeon ac mae hyn wedi rhoi llawer fwy o hyder i mi ddysgu o flaen dosbarth mawr gydag athrawon eraill yn gwylio.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Rwyf yn Cynorthwyydd Dosbarth Cyfnod Allweddol 2 yn Ysgol Gynradd Penllwyn ac rwyf yn helpu plant o fewn y dosbarth i ddatblygu eu sgiliau o fewn pynciau gwahanol.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Fy mhrif diddordeb tu allan i’r gwaith yw cymryd rhan mewn chwaraeon. Hefyd rwyf yn hoff iawn o gerdded a gweld yr holl olygfeydd anhygoel sydd gennym yng Nghymru.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Profiadol, Gwych a Hwyl!