Lawr-lwythwch becyn wybodaeth gyflawn drwy glicio ar y botwm 'Gwybodaeth i Ddysgwyr' isod.
Beth yw'r HWB?
Mae’r Hwb yn cynnig cymwysterau a hyfforddiant pwrpasol yn y meysydd Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol. Mae modd i unigolion weithio tuag at gymwysterau Sgiliau Hanfodol Mynediad 2 i Lefel 3, neu weithio i wella sgiliau wrth ymgymryd â rhaglen dysgu arall.
I bwy mae'r HWB?
Mae’r Hwb yn agored i unigolion sydd eisiau cwblhau eu cymwysterau sgiliau hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n addas ar gyfer:
Siaradwyr Cymraeg sydd heb ymarfer eu Cymraeg am gyfnod
Siaradwyr sydd ond wedi defnyddio eu Cymraeg yn yr ysgol
Dysgwyr gyda lefel da o Gymraeg
Siaradwyr rhugl
Beth os ydw i ar raglen dysgu gyda darparwr arall?
Mae’n bosib eich bod sydd ar raglen dysgu gyda darparwr arall ac angen cwblhau sgiliau hanfodol fel rhan o’ch fframwaith, os felly, gofynnwch i’ch tiwtor i gael gwneud y cymwysterau yn Gymraeg a’u cyfeirio atom ni!
Lawr-lwythwch ddogfen wybodaeth YMA <https://www.urdd.cymru/download_file/view/11625/> i ddysgu mwy am beth allwn ni gynnig.
Os nad ydych ar raglen ddysgu ond eisiau uwch-sgilio, cysylltwch â ni i drafod ymhellach: hwbsgiliau@urdd.org neu defnyddiwch y ffurflen diddordeb.
Beth mae'r rhaglen ddysgu yn ei gynnwys?
Bydd y gweithdai rydych yn ei fynychu yn ddibynnol ar eich lefel cyfredol a’r lefel rydych yn ei anelu amdano. Bydd eich tiwtor yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei deilwra i’ch anghenion a’ch arddull dysgu.Dyma’r hyn gallwch ddisgwyl i fod yn rhan o’ch profiad:
- Asesiadau Cychwynnol
- Cynllun dysgu unigol
- Mynediad at weithdai rhithiol
- Sesiynau 1:1
- Mynediad at adnoddau, recordiadau o sesiynau ac e-portffolio
- Tasgau gwaith annibynnol sy’n cael eu hasesu ac adborth yn cael ei ddarparu
- Tasg dan reolaeth a phrawf cadarnhaol (gan gynnwys tasgau ymarfer)
- Tystysgrifau
Ble mae'r HWB?
Mae’r rhan fwyaf o weithdai’r HWB yn digwydd yn rhithiol ac felly yn agored i unigolion o bob rhan o Gymru.