Plant a phobl ifanc

Mae’r Gwersyll yn gweithredu ar ethos o ddysgu drwy weithgaredd a chredwn yn gryf bod yr ethos yma wedi profi’n effeithiol wrth ddatblygu hunanhyder unigolion.  

Parachute_5_Copy.jpg

Nid oes ystafell ddosbarth well na Gwersyll yr Urdd Caerdydd a threfnir ystod eang o gyrsiau ar gyfer grwpiau o unrhyw faint. Mae hyn i gyd yn rhoi hyder a chefnogaeth i athrawon sy’n awyddus i fynd a’u disgyblion ar daith breswyl addysgol er mwyn gwneud y defnydd gorau o addysgu ‘y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Ers i wersyll Caerdydd agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2004, rydym wedi mynd o nerth i nerth gydag ysgolion yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Am fwy o fanylion cysylltwch â  caerdydd@urdd.org

Gweithgareddau i deuluoedd