Sgwrs gyda Morgan Lewis -

Prentis y Mis, Mawrth 2021

Mae Morgan yn dod o Gaerdydd ac yn byw yn ardal Gabalfa. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a bellach mae’n cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau gyda'r Urdd.

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Fel rhan o fy ngwaith Bac yn yr ysgol, roedd rhaid i fi wneud gwaith gwirfoddol am 30 awr. Ar gyfer hyn, gweithiais yn fy nghlwb lleol a hyfforddi gwahanol mathau o chwaraeon. Gwnes i fwynhau hyfforddi felly gwnes i ymchwil mewn i swyddi chwaraeon.

Yn yr ysgol gynradd roeddwn i’n aelod o’r Urdd, gan gymryd rhan mewn clybiau ac eisteddfodau bob blwyddyn. Dyna pam roedd gwneud prentisiaeth gyda’r Urdd yn apelio i mi.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Gweithio gyda phlant a gweld eu sgiliau a’u hyder yn codi. Dwi’n hoffi'r ffaith fy mod i’n gallu gwella sgiliau a thechnegau’r plant dwi’n hyfforddi a gweld eu datblygiad.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n byw yng Nghaerdydd ac wedi bod yn siarad Cymraeg drwy gydol fy mywyd, dwi’n caru siarad Cymraeg a gwella fy sgiliau o hyd.  

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Dwi’n gefnogwr enfawr o Cardiff City. Dwi wedi bod yn ‘season ticket holder’ ers yn ifanc gan wylio bob gem adref ac i ffwrdd.                                                                                                                                  Dwi’n hoffi mynd i’r gym a mynd mas ar fy meic cymaint â phosibl.

Ym mha ffordd y mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Drwy weithio fel hyfforddwr, dwi wedi datblygu fy hyder yn fawr ers dechrau’r brentisiaeth, drwy siarad gyda rhieni a chyfranogwyr yn fy ngweithgareddau. Hefyd, mae mynd ar alwadau a gwneud tasgau grŵp gyda gwahanol bobl yn yr Urdd wedi datblygu fy hyder.

Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Ar ôl gorffen fy mhrentisiaeth, dwi’n gobeithio parhau gweithio gyda'r Urdd, a datblygu fy sgiliau a thechnegau hyfforddi chwaraeon.

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau

Yn yr Urdd, dwi’n hyfforddi cyfranogwyr gan drio gwella’u sgiliau a’u technegau nhw mewn gwahanol chwaraeon. Dwi’n helpu staff eraill yr Urdd hefyd.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl, Mwynhâd, Profiad.