Wedi ei lleoli ar lannau Llyn Tegid, mae gwersyll Glan-Llyn yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel.
Mae ein cyrsiau yn amrywio o ymweliad diwrnod i gwrs wythnos neu benwythnos i grwpiau o 5 - 250, gyda'r ethos o ddysgu tra'n cael hwyl.
Mae llu o weithgareddau dŵr a thir ar gael, gyda pob un yn cael eu harwain gan ein staff cymwys a phroffesiynol.
Cyfleoedd gwych i hyfforddi a dilyn gyrfa yn yr awyr agored!
Os yn arweinydd yn trefnu cwrs, neu yn rhiant/gwarchodwr gyda phlentyn yn ymweld, cewch fwy o wybodaeth am y gwersyll yma. Mae'r holl ddogfennau a gwybodaeth angenrheidiol yn ymwneud ag ynweliad ar gael, yn ogystal a'r newyddion diweddaraf o'r gwersylla sut i gyrraedd.
Mae'r Llyn, y mynyddoedd a'r afonydd cyfagos i Glan-llyn yn cynnig opsiynau cyffrous i'r rhai sy'n penderfynu dod yma i aros am wyliau neu ar gwrs addysgiadol. Dewch i aros!
Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae’r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr agored yng Nghymru.
Mae gan y gwersyll gyfleusterau sydd yn addas ar gyfer plant a phobl ifanc, teuluoedd a digwyddiadau busnes.
A hithau yn flwyddyn antur, beth am ddod fel teulu i Lan-llyn ddechrau mis Ebrill? Gwyliau gyda digon i'w wneud i oedolion a phlant, a dim costau ychwanegol am weithagreddau ar ol cyrraedd!