Llogi ystaelloedd cyfarfod

Yn ogystal â darparu llety mae gan y Gwersyll gyfleusterau cynadledda a chyfarfod ar gael i’w llogi.

Ystafelloedd Cyfarfod

Mae gan y Gwersyll dewis o ystafelloedd cyfarfod.

Mae'r ystafell gyfarfod yn dal hyd at 14 person.

Mae gennym 2 ystafelll dosbarth sy'n dal o ddeutu 20 unigolion. Mae modd agor y canolfur er mwyn creu un ystafell fawr sydd yn dal 40.

Mae pob un o'n hystafelloedd yn Teams ready, gyda camerauu, meics nenfwd, sgrinau rhyngweithiol. 

 Gyda thrafnidiaeth gyhoeddus i ganol y ddinas a chysylltiad cyfleus i’r M4, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn lleoliad delfrydol ac unigryw ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Mae cysylltiad diwifr a’r wê a system awyru ar gael ym mhob un o’n hystafelloedd.

Neuadd

Mae’r neuadd yn ystafell amlbwrpas sy’n addas ar gyfer pob math o ddigwyddiadau megis perfformiadau theatr a dawns, cynadleddau busnes, seminarau hyfforddi, neu ymarferion cerddorfeydd a chorawl. Ar ffurf theatr gellir eistedd hyd at 153 o bobl. Mae goleuadau theatr, system sain a thaflunydd digidol ar gael yno.

Bwyd

Mae gan y Gwersyll neuadd fwyd sy’n gweini brecwast, cinio a swper.

Gall y Gwersyll ddarparu ar gyfer unrhyw anghenion bwyd, dietegol neu grefyddol. Gellir trafod yr holl ofynion yma gyda ni.

Os yn mynychu’r Gwersyll ar gyfer cyfarfod gallwn ddarparu lluniaeth ar gyfer digwyddiad o unrhyw faint.  Mae ein bwydlen yn cynnig dewis eang o luniaeth, boed hynny’n baned a bisged neu pryd o fwyd poeth.

Nol