PRENTIS Y MIS - EBRILL 2020 

Sgwrs Gyda Katie Atherton - Prentis (Allanoly mis!

 

Mae Katie yn wreiddiol o Ogledd Cymru, ond fe wnaeth hi symud i ardal y Rhondda pan yn ifanc. Bellach, y mae wedi ymgartrefi yn Ynyshir yn y Rhondda. Fe aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, ac yna i Ysgol Gyfun Cymer y Rhondda. Fe aeth hi yn ôl i’w hysgol gynradd i fod yn gynorthwyydd dysgu am sawl blwyddyn, ond bellach mae wedi cael swydd fel cynorthwyydd yn ysgol Gynradd Bronllwyn. Mae Katie wedi cwblhau blwyddyn cyntaf ei phrentisiaeth ac wedi ennill cymhwyster Lefel 2 mewn ‘Arwain Gweithgareddau’, fel rhan o gynllun prentisiaeth allanol yr Urdd!  Cafodd y cynnig i barhau i wneud prentisiaeth Lefel 3 mewn ‘Datblygu Chwaraeon’ gyda’r Urdd, ac roedd Katie yn awyddus iawn i barhau. Dyma ychydig am ei gwaith a’i diddordebau!

 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Daeth y cyfle pan roeddwn i’n gweithio fel 1:1 yn Ysgol Llwyncelyn. Roedd gennyf diddordeb mawr yn y brentisiaeth, oherwydd rydw i’n helpu i ddysgu plant karate yng nghlwb fy nhad. Roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau o fewn chwaraeon eraill.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio arno?

Dwi’n hoffi’r ffaith fy mod i’n gallu bod yn greadigol yn fy swydd ac yn gallu datblygu fy sgiliau o fewn gwahanol ffurfiau i’r plant. Mae’r brentisiaeth wedi cadw fi’n brysur ac wedi fy nysgu llawer iawn o wybodaeth am chwaraeon i helpu o fewn gwersi.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Dwi’n browd iawn o’r iaith Gymraeg ac wedi bod yn rhugl ers erioed, felly mae’n bwysig i mi dysgu yn yr iaith.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Dwi wedi dysgu llawer am sut i hyfforddi o fewn chwaraeon ac mae hyn wedi rhoi llawer fwy o hyder i mi i ddysgu o flaen dosbarth mawr gyda rhieni yn gwylio!

Disgrifia yn fras dy ddyletswyddau.

Rydw i nawr yn cynorthwyydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn ac yn helpu plant o fewn y dosbarth i ddatblygu eu sgiliau o fewn pynciau gwahanol.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Fy mhrif diddordeb yw karate! Mae fy nhad yn rhedeg clwb yn lleol lle dwi’n helpu i ddysgu yn wythnosol ac yn cystadlu hefyd! Dwi’n hoffi ymlacio drwy mynd am dro gyda’r ci lan y mynydd a gwylio ffilmiau gyda phitsa!

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwylus, diddorol a profiadol!