PRENTIS Y MIS - CHWEFROR 2018

Jamie Bennell 

Fe gafodd Jamie ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd ac mae ganddo angerdd mawr at rygbi. Fe wnaeth ddechrau chwarae’r gêm pan oedd yn 6 mlwydd oed, ac ymunodd a  thîm CRICC yn yr Eglwys Newydd cyn symud ymlaen at  Harlequins Caerdydd.

Fe wnaeth Jamie fynychu Ysgol Mynydd Bychan ac yna Ysgol Glantaf ble lwyddodd i ennill tair Lefel A. Yna, fe aeth i’r Brifysgol yn Sheffield am gyfnod cyn penderfynu nid dyna oedd y llwybr cywir iddo.  Er hynny, tra oedd y Sheffield fe wnaeth Jamie gychwyn gwaith hyfforddi plant yng nghlwb ‘Rygbi Tots.’ Fe wnaeth hwn ysgogi awydd cryf yn Jamie am hyfforddi plant a phobl ifanc.

Gan mae iaith gyntaf Jamie oedd y Gymraeg, law yn llaw gyda’i chwant i hyfforddi, roedd gwneud Prentisiaeth Chwaraeon gyda’r Urdd yn dewis perffaith i Jamie. Mae Jamie nawr yn ei ail flwyddyn prentisiaeth gyda’r Urdd ac wedi llwydo i ennill NVQ Lefel 2 yn Arwain Chwaraeon a nifer o gymwysterau chwaraeon penodol. Ar hyn o bryd, mae’n astudio ar gyfer Lefel 3 Datblygu Chwaraeon.

Mae Jamie yn falch iawn o allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac y mwynhau gweithio o fewn tîm arbennig Adran Chwaraeon Caerdydd a’r Fro. Mae hefyd yn mwynhau’r gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn fawr.

  “Dwi wrth fy modd yn gweld cynnydd yn safon y clybiau chwaraeon dwi’n cynnal ac i weld unigolion yn datblygu mewn hyder ac mewn sgil.”

Yn ei amser rhydd, mae Jamie dal i fwynhau chwarae Rygbi ac yn cystadlu’n gystadleuol. Mae hefyd yn mwynhau’r ochor gymdeithasol o fod yn aelod o glwb rygbi. Yn y dyfodol mae Jamie yn gobeithio i barhau i weithio gyda phlant ac i symud mewn i ddysgu.

“Mae’r cyfle unigryw yma gyda’r Urdd wedi profi i mi fy mod yn dda yn gweithio gyda phlant, a dyma beth hoffwn i barhau i wneud yn y dyfodol.”