Mae ein lleoliad ar arfordir Gorllewin Cymru yn creu yr awyrgylch delfrydol i sicrhau bod grwpiau yn mwynhau, cymdeithasu a dysgu yn ddiogel.
Ein prif fantais yw ein hyblygrwydd i greu rhaglen arbennig i weddu ag anghenion unrhyw grŵp.
Yr Ardal Leol
Rydym wedi ein lleoli ar gyrion pentref arfordirol Llangrannog ar hen fferm Cefn Cwrt sydd yn 140 acer. O fewn tafliad carreg i’r gwersyll mae yna draethau baner las, llwybr arfordirol bendigedig, bywyd gwyllt, tafarndai, bwytai o safon, teithiau cychod Cei Newydd, dolffiniaid a llawer mwy!
Ystafelloedd Cyfarfod
Mae gennym naw ystafell gynhadledd/cyfarfod, mawr a bach. Mae’r adnoddau sydd ar gael yn cynnwys tri bwrdd gwyn rhyngweithiol, uwch-daflunydd, siartiau ysgrifennu a thechnoleg band llydan, diwifr.
Lletygarwch
Darparir prydau ar gyfer pob angen dietegol boed ar ffurf pecynnau bwyd i gerddwyr neu bwffe neu wedi ei weini.
Llety
Rydym yn cynnig llety i dros 500 o bobol mewn ystafelloedd o safon gyda graddfa 4 seren gan Croeso Cymru. Mae 62 ystafell ensuite ar ffurf ystafelloedd bync sy’n cysgu rhwng 6 a 8 person, 8 ystafell ensuite ‘twin’ a 16 ystafell cyffredin gyda bloc cawodydd.
Gweithgareddau
Mae yna ystod eang o weithgareddau sydd yn cael eu rhedeg gan staff proffesiynol gan gynnwys sgïo, eirfyrddio, gwylltgrefft, cerdded arfordir, cwrs rhaffau uchel, wal ddringo, saethyddiaeth a llawer mwy, maent i gyd yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau adeiladu tîm. Mae'n bosib trefnu gweithgareddau eraill am gost ychwanegol megis syrffio, canwio, hwylio, taith cychod