Prentis y Mis - Chwefror 2019 

Oliver Dalton

Mae Oli Dalton yn brentis chwaraeon allanol fel rhan o gynllun Darpariaeth Prentisiaethau Allanol yr Urdd. Mae’n gynorthwyydd dysgu yn Ysgol Hamadryad, ac felly’n ymgymryd â’i brentisiaeth wrth barhau gyda'i dyletswyddau yn yr ysgol. Penderfynodd ymgymryd â’r brentisiaeth gan ei fod yn gymhwyster ychwanegol iddo, a gan ei fod wedi mwynhau chwaraeon ers erioed!

‘Mae gweld y plant yn datblygu o ddechrau’r flwyddyn i ddiwedd y flwyddyn yn achosi balchder mawr i mi! Mae Ryan (fy asesydd) yn ‘ledge’ a dim ond tecst neu alwad i ffwrdd os oes unrhyw broblem!’

Ar ôl i Oli gwblhau ei brentisiaeth, mae’n gobeithio rhedeg clybiau a hyfforddi timoedd yn yr Ysgol.

‘Fy uchelgais yw i ddechrau cwmni chwaraeon fy hun rhyw ddydd!’