Prydiau Bwyd yn Llangrannog

 

Mae amseroedd bwyd yn uchafbwynt i nifer, yn enwedig y te traddodiadol Cymreig!

Bob pryd bwyd bydd y canlynol ar gael:

  • 2 ddewis o pryd twym (heb gynnwys dewis llysieuol)
  • Bar salad - amryw o ddewis
  • Pwdin twym neu hufen ia yn yr Haf! 
  • Dewis o ffrwythau ar gael

Mae yna ddigonedd o amrywiaeth gydag opsiynau i lysieuwyr ynghyd ag unrhyw angen dietegol arall. Er hyn deallwn gall prydau bwyd peri gofid i nifer o ddarpar wersyllwyr a rhieni, a cheisiwn gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu eich ofnau.

Rydym yn arfer a'r anghenion dietegol canlynol a mwy:

  • Llysieuwr
  • Fegan
  • Diabetig - cysylltwch am fwydlen cyfrif carbohydrad
  • Di-glwten
  • Halal
  • Alergeddau - mae'r fwydlen yn tynnu sylw at yr 14 alergenau Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Dewis o laeth gwahanol ar gael bob amser a chynnyrch soia ar gael ar gais cwsmer
  • Gallwn addasu a darparu dewisiadau gwahanol os gofynnir 'mlaen llaw 

Cofiwch nodi unrhyw anghenion dietegol ar y Ffurflen Iechyd. Os ydych eisiau sgwrs pellach croeso i chi gysylltu â ni. 

Os hoffech dderbyn copi o'r fwydlen neu gael sgwrs am ddarpariaeth y gegin peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Rhiannon ar 01239 652 148 neu rhiannon@urdd.org. 

Mae ffrwythau ffres, dŵr a diod oren ar gael trwy gydol y dydd yn rhad ac am ddim, felly dewch â photel ddŵr i lenwi.

Dyfarnwyd sgôr hylendid bwyd o 5 i’r Gwersyll.

 Version 1 Badges Bilingual 5.png