Mae Glan-llyn Isa' yn addas ar gyfer sawl math o gwsmer:

  • Ysgolion – cyrsiau preswyl i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 13.
  • Colegau Addysg Bellach a Phrifysgolion.
  • Mudiadau
  • Gwasanaethau Ieuenctid.
  • Teuluoedd neu grwpiau o ffrindiau.
  • Dosbarthiadau o ddysgwyr y Gymraeg.
  • Cyflogwyr – ar gyfer Cyrsiau Adeiladu Tim neu Hyfforddiant Staff / Prentisiaid.
  • Clybiau Awyr Agored
  • Clybiau Chwaraeon
  • Priodasau bach hunan-arlwy.
  • Trefnwyr cyrsiau cerddorol
  • Partion plu neu hydd
  • Lleoliad ar gyfer trefnu cwrs arbenigol eich hunan ee ioga, SUPio, crefft

 Gall y cyfnodau preswyl amrywio o 2 noson i wythnos gyfan (neu fwy).

 

Gweithgareddau - yn ddibynnol ar argaeledd adnoddau Gwersyll Glan-llyn ei hun

Cliciwch i weld be allai gael ei gynnig