Sgwrs gyda Sian Herbert

Prentis y Mis, Ionawr 2022

Mae Sian Herbert yn wreiddiol o Borthaethwy, Ynys Môn, ond erbyn hyn yn byw ger Bethesda. Fe chafodd ei haddysg yn Ysgol y Borth, ac yna yn Ysgol David Hughes. Mae Sian yn gwneud prentisiaeth Lefel 3 ‘Datblygu Chwaraeon’ fel rhan o brentisiaeth allanol yr Urdd. Dyma ychydig am ei gwaith a’i diddordebau!

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth Chwaraeon gyda'r Urdd?

Rwyf yn athrawes ysgol gynradd a wastad wedi bod gyda diddordeb mewn chwaraeon. Cefais wybod gan yr ysgol am y brentisiaeth a phenderfynais fynd amdani er mwyn datblygu fy ngwybodaeth ymhellach.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Rydw i wrth fy modd yn dysgu plant ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae nifer o’r gweithdai a’r gwaith rwyf wedi cwblhau wedi codi fy hyder mewn gwahanol feysydd a rwyf wedi dysgu llawer iawn am gynllunio, trefnu a chynnal gweithgareddau corfforol.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Rwyf yn siarad Cymraeg bob dydd yn fy ngwaith a mae cwblhau fy ngwaith yn yr iaith, yn gwella cywirdeb fy ngwaith ysgrifenedig.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Mae gen i 2 o blant felly rwyf yn hoffi treulio fy amser gyda nhw yn mynd am dro yn ein hardal leol. Rwyf wrth fy modd yn mynd am dro i lan y môr – enwedig yn y gaeaf, ac rwyf yn hoff o goginio. Rwyf wrth fy modd yn teithio ac wedi methu mynd ar wyliau dramor yn ystod cyfnod COVID19!!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Rwyf yn hoff o gymdeithasu ac mae’r brentisiaeth yma wedi rhoi cyfle i mi sgwrsio yn aml am bynciau rwyf yn hoffi. Mae rhyngweithio fel hyn yn rhywbeth rwyf yn mwynhau ac yn cael llawer o fudd ohono.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Hoffwn allu cynnig fwy o arbenigedd mewn chwaraeon yn enwedig pan fyddaf yn ceisio am swyddi yn y dyfodol. Gobeithiaf allai gynnig cyfleoedd i fwy o blant lleol i ymgymryd mewn chwaraeon.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Rhoi addysg gorau i blant ysgol gynradd drwy gynnig cyfleoedd a phrofiadau dysgu.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Diddorol, rhyngweithiol a chyfle gwych! Sori 4 gair!!

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Rwyf wedi mynd i ddysgu yn hwyrach ymlaen yn fy mywyd ar ôl bod mewn gyrfa hollol wahanol. Roedd gwneud y penderfyniad yn anodd, ond rwyf mor falch fy mod wedi cymryd y cam a rwyf wedi sylweddoli nid yw hi byth rhy hwyr i gymryd sialens newydd ymlaen.