Prentisiaid y Mis - Hydref 2019

Lowri a Nia o Ysgol Llanilar

 

Mae Nia a Lowri yn gynorthwywyr dysgu yn Ysgol Llanilar ac yn cwblhau prentisiaeth Lefel 3 mewn 'Datblygu Chwaraeon'. 

 

Cafwyd y ddwy eu dewis fel prentisiaid y mis am eu brwdfrydedd, ymrwymiad a’u cynnydd gwych o fewn eu prentisiaeth. Roedd y ddwy yn awyddus i ddatblygu sgiliau er mwyn medru cyflawni heriau newydd a chyffrous o fewn eu swyddi yn yr ysgol. Mae’r ddwy bellach, ers ymgymryd â’r brentisiaeth, yn medru cynnal clybiau chwaraeon amrywiol i blant yr ysgol yn hyderus a llwyddiannus.

Dywedodd Nia fod y cyfle wedi - 

“gwella fy nealltwriaeth a sgiliau yn y maes chwaraeon er mwyn ei defnyddio yn yr ysgol. Mae’r broses asesu yn ddefnyddiol iawn, dwi’n mwynhau cael fy arsylwi er mwyn derbyn adborth ar sut i wella.”

Mae Lowri hefyd yn teimlo ei bod wedi elwa’n fawr o’r brentisiaeth hyd yn hyn! Dywedodd - 

“Dwi wedi datblygu yn bersonol a dysgu ystod eang o sgiliau newydd. Does dim llawer o gyfleoedd fel hyn yn codi - i wneud cwrs ac ennill cymhwyster wrth barhau gyda’m swydd. Dwi’n gallu defnyddio'r hyn rwyf wedi dysgu o ddydd i ddydd yn yr ysgol.”  

Ar ôl cwblhau eu prentisiaeth, mae Nia a Lowri yn gyffrous i barhau cynnal sesiynau a chlybiau chwaraeon o safon uchel, yn hyderus o fewn yr ysgol. Maent yn gweld bod y brentisiaeth nid yn unig wedi eu datblygu nhw yn bersonol, ond wedi datblygu’r ysgol, ac yn gweld bod y plant yn elwa’n fawr o’r cynllun hefyd!