Darpariaeth o'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy gyfrwng y Gymraeg, ledled Cymru, drwy gydol y flwyddyn. Sefydlwyd ein Hwb Sgiliau Hanfodol er mwyn sicrhau bod gan unigolion ledled Cymru yr opsiwn o ddatblygu eu sgiliau Cyfathrebu, Rhifedd a Llythrennedd Digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Sicrhawn fod y rhaglenni yn cychwyn yn gyson fel bod unrhyw un yn gallu dechrau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn i gwblhau yn Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o weithdai’r Hwb yn digwydd yn rhithiol ac felly yn agored i unigolion a darparwyr o bob rhan o Gymru. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn yr un flaenoriaeth â’r Saesneg wrth gwblhau’r cymwysterau Sgiliau Hanfodol.