Sgwrs gyda James Fishlock

Prentis y Mis, Rhagfyr 2021

Mae James Fishlock yn dod o Lansawel yng Nghastell-Nedd Port Talbot. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, a bellach mae’n cwblhau prentisiaeth Arwain Gweithgareddau gyda’r Urdd. 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Dewisais i’r brentisiaeth hyn oherwydd mae wedi bod gyda fi ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, ers oeddwn yn ifanc. Rydw i wedi cael diddordeb mewn chwaraeon trwy gydol fy mywyd, a phan welais i’r brentisiaeth hyn, roeddwn yn credu ei fod yn gyfle perffaith i mi.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Rydw i’n hoffi hyfforddi’r plant a gweld eu sgiliau nhw’n datblygu ac yn gwella wrth iddyn nhw wneud y sesiynau. Mae’n gwneud fi’n hapus pan rydw i’n gweld hyder y plant yn gwella drwy sgiliau gwahanol.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Rydw i’n hoffi gwneud y brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd rydw i’n gallu defnyddio’r iaith yn fwy aml, ac mae’r brentisiaeth yn helpu fi i ddatblygu fy sgiliau iaith.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Rydw i’n rhedeg i Neath Harriers – rwy’n gwneud traws gwlad a hefyd pellter hir. Rhedais i fy marathon cyntaf yn ddiweddar yng Nghasnewydd mewn 2:59:09. Rydw i hefyd yn cefnogi Abertawe, mae gen i docyn tymor am Abertawe a hefyd rydw i’n ceisio eu dilyn nhw i ffwrdd cymaint ag sy’n bosib!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae fy hyder i wedi gwella wrth wneud y brentisiaeth. Rydw i wedi mwynhau cwrdd a phobl newydd ac hefyd, rydw i nawr yn hyderus yn ffonio ysgolion gwahanol.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Byddaf yn hoffi mynd ymlaen i gael swydd hyfforddi neu swydd arall gyda’r Urdd, a gobeithio datblygu mwy o sgiliau ar ôl y brentisiaeth.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Mae angen i fi gynllunio a darparu sesiynau chwaraeon gwahanol yng Nghastell-Nedd Port Talbot. Rydw i’n hyfforddi plant ac helpu nhw wella sgiliau a thechnegau mewn gwahanol chwaraeon.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl! Gwych! Profiadol!