Cwestiynnau all godi ...

Os oes gennych gwestiynnau erail, cysylltwch a ni.

Beth sydd angen ar fy mhlentyn? 

  • Sach gysgu
  • Dillad nos a phethau ymolchi.
  • Dillad sbâr - nid y ‘dillad gorau’.
  • Siwmper gynnes ac anorac neu got law.
  • Dillad chwaraeon, dillad nofio a thywel.
  • Pâr o ‘drainers’ neu esgidiau addas i gerdded a hen bâr o esgidiau neu ‘Wellingtons’ i fynd ar y ceffylau a’r beiciau modur.
  • Dillad addas ar gyfer sgïo a gwibgartio h.y. hen fenyg ac hen dracsiwt neu jeans.
  • Llyfr nodiadau a phensil/biro (cyrsiau yn unig).
  • HEN DDILLAD AR GYFER Y CWRS ANTUR MWDLYD (Ebrill - Hydref). Dylid anfon hen ddillad y gellir cael yn fwdlyd neu hyd yn oed eu taflu ar ôl y gweithgaredd neu ar ôl cyrraedd adref gan fod y cwrs yn fwdlyd dros ben – ond yn HWYL. Darperir cwdyn/bag i gario’r dillad brwnt/budr ar ôl y gweithgaredd 

 

PWYSIG
Cofiwch anfon y Tystysgrif iechyd gyda’ch plentyn –  gyda manylion unrhyw afiechyd, salwch, alergeddau anghenion arno, ynghyd a rhif ffon a enw cyswllt.

Rhowch enw ar BOB DILLEDYN (yn enwedig dillad nofio). Mae’n syndod faint sydd yn cael eu gadael!

A oes rhwybeth ni ddylwn eu pacio? 

Gofynnwn i chi ofyn i’ch plentyn beidio dod a’r canlynol i’r Gwersyll: Radio, chwaraeydd cerddoriaeth (e.e. iPod), gemau fideo, teganau drud, fflach lamp, ffôn symudol (does dim derbyniad i gael yn yr ardal), ac oherwydd rheolau Iechyd a Diogelwch, cyllell boced, chwistrellau aerosol (defnyddiwch diaroglydd rholio), peiriannau trydanol symudol e.e. sychwyr gwallt,  tongs gwallt, haearn smwddio. Os digwydd i blant ddod â’r eiddo personol uchod i’r Gwersyll rydym yn eu casglu a’u cadw’n ddiogel tan y bore olaf.

Ar y llaw arall, mae croeso i’r plant adael eiddo fel camerâu, oriawr ac ati yn ein gofal ni a’u defnyddio fel y bo angen. Rhown label ac enw ar bopeth.

NI FYDDWN YN GYFRIFOL AM DDIOGELWCH NEU UNRHYW DDIFROD I’R EIDDO UCHOD OS DAW PLANT Â HWY I’R GANOLFAN. 

All fy mhlentyn ffonio adre?

Rydym yn annog plant i beidio ffonio adre, yn enwedig ar ddechrau cwrs. Oni bai y clywch oddi wrthym fe fyddwch yn gwybod bod eich plentyn yn iach ac yn mwynhau.

Gallwn eich sicrhau os y bydd angen cysylltu â’r rhieni (e.e. salwch neu hiraeth drwg) fe fyddwn yn gwneud hynny’n syth. Os byddwch am anfon neges at eich plentyn gallwch wneud hynny a chroeso trwy Dderbynfa’r Gwersyll (01239 652140) neu ebost (Llangrannog@urdd.org). Mi fydd y Cyfarwyddwr yn hapus iawn i drosglwyddo’ch neges. 

Beth sy’n digwydd os oes problem gyda’m mhlentyn

Mae yna rywun ar gael trwy gydol yr amser, ddydd a nos. Ar gyfartaledd mae 1 staff i bob 6/8 plentyn. Mae gwyliwr nos ar ddyletswydd trwy’r nos.

Ble fydd fy mhlentyn yn cysgu?

Yn syth wedi cyrraedd y Gwersyll, mi fyddwn yn dangos y plant i’w ystafelloedd. Athrawon fydd yn gyfrifol am lleoli disgyblion, er mwyn sicrhau rhediad esmwyth y cwrs. Mae ystafelloedd athrawon/arweinyddion gerllaw ystafelloedd y plant ac rydym yn sicrhau fod pob plentyn yn gwybod ble i fynd os oes angen cymorth yn ystod y nos. Mae ystafelloedd fel arfer yn cysgu rhwng 4 ac 8 plentyn.