Crwydrwch ar hyd lwybr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan edrych am fywyd gwyllt y môr neu cerddwch Ffordd Euraidd y Preseli gan fwynhau'r golygfeydd godidog. Ar stepen drws y gwersyll gallwch fynd am dro trwy Goedwig Tŷ Canol a Phentre Ifan. Ar ddiwedd y dydd, mwynhewch sesiwn syllu ar y sêr o amgylch tân y gwersyll gyda phaned blasus o siocled poeth.
Mae amryw o atyniadau yn yr ardal y gallwch ymweld a nhw, gan gynnwys Pentref Oes Haearn Castell Henllys, Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed, Canolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran, Llyn Llys-y-frân a llawer mwy!
Rydym wedi lleoli’n berffaith rhwng trefi poblogaidd Trefdraeth ac Aberteifi lle mae bwytai blasus, thafarndai clyd a digon o siopau!
Mae ystafelloedd ensuite Cwt Carningli yn cysgu 7 i 9 person yr ystafell, gyda phrisiau yn dechrau o £120 yr ystafell y noson. Neu os oes grŵp ohonoch chi eisiau aros, gallwch chi logi’r safle cyfan! Rydym hefyd yn cynnig brecwast cyfandirol am £5.50 y pen.
Felly beth amdani? Archebwch eich dihangfa heddiw trwy anfon e-bost at pentreifan@urdd.org
ARGAELEDD
3-5 o Ionawr (Gweithgareddau ar gael am bris ychwanegol)
26-28 o Ionawr (Gweithgareddau ar gael am bris ychwanegol)
2-4 o Chwefror
23-25 o Chwefror
1-3 o Fawrth
22-24 o Fawrth