Sgwrs gyda Lleucu Cravos

Prentis y Mis, Awst 2022

Mae Lleucu Cravos yn dod o Gaerfyrddin a chafodd ei haddysg yn Ysgol Bro Myrddin. Mae Lleucu yn brentis ‘Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant’ drwy bartneriaeth cyffrous y Mudiad Meithrin a’r Urdd, ac mae hefyd wedi cwblhau Sgiliau Hanfodol Rhifedd yn ystod ei phrentisiaeth. Dyma ychydig o’i hanes!

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Mudiad Meithrin?

Fe wnes i newid fy ngyrfa o weithio mewn swyddfa i weithio mewn cylch meithrin, a roedd prentisiaeth y Mudiad Meithrin yn berffaith i fi.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd a sut mae’r brentisiaeth wedi effeithio ar dy swydd?

Y plant yn bendant, dwi wrth fy modd gyda nhw. Mae’n gymaint o hwyl dod i nabod nhw a’u gweld yn datblygu. Mae’n braf gweld cymeriadau swil yn magu hyder a chymeriadau mwy byrbwyll yn datblygu amynedd! Mae’r brentisiaeth wedi rhoi dealltwriaeth ddwfn i fi o anghenion plant, dwi wedi dysgu am diogelu, alergeddau, am hawliau plant a’r damcaniaethau am ddatblygiad plant, a llawer mwy. Mae wedi rhoi mwy o hyder i fi a hefyd wedi sicrhau fy mod yn deall anghenion y plant yn well. Dwi dal yn cael hwyl yn canu, darllen stori a chwarae gyda’r plant ond dwi’n eu deall nhw yn well o ganlyniad i’r prentisiaeth. Yn lle gweld y plant fel pethau ciwt sy’n gweud pethau doniol, dwi’n gweld nhw fel unigolion mewn cam pwysig iawn o’u datblygiad. Mae hefyd yn braf pan mae’n nhw’n dechrau siarad Cymraeg â fi.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae astudio yn y Gymraeg yn llawer mwy pleserus i fi mewn unrhyw bwnc ond gan mod i’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg mae’n hanfodol. Mae rhan fwyaf o blant y cylch yn dod o deuluoedd di Gymraeg, ac mae hyd yn oed y rhai gydag un rhiant yn siarad Cymraeg yn gallu bod yn ddihyder mewn criw uniaith Saesneg. Mae’n rhaid bod yn gadarn gyda’r dull ymdrochi a mae cael cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg wedi helpu fi yn fawr gyda hynny. Yn ystod y brentisiaeth roedd problemau eithaf difrifol gyda iechyd fy mhartner a mi oedd gallu trafod hyn yn Gymraeg gyda fy nhiwtor yn haws nag yn Saesneg. Mi oedd cefnogaeth fy nhiwtor yn wych.

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Mae gyda fi mab saith mlwydd oed o’r enw Gethin a mae llawer o fy amser yn troi o’i amgylch e a’i diddordebau e. Lwcus iawn mod i’n hoffi coginio! Dwi hefyd yn hoffi natur, mynd ar y beic a garddio. Yn ceisio achub y byd yn dawel fach!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Rhan o’r brentisiaeth oedd gwneud cwrs rhifedd sylfaenol. Rydw i wedi casáu mathemateg ers dyddiau ysgol a mi oedd rhaid i fi wynebu y bwgan erchyll yma. Gyda help fy nhiwtoriaid anhygoel o’r Hwb Sgiliau Hanfodol, dwi’n dwli ar fathemateg ac wedi pasio’r prawf! Mi oedd salwch fy mhartner wedi effeithio arna i yn dilyn y cwrs a heb y gefnogaeth ffantastig a ges i gan fy nhiwtoriaid, ni fyddwn wedi llwyddo. Diolch iddyn nhw fe wnes i ddatblygu a magu ychydig o ddygnwch.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?

Gweithio yn y cylch - pan ddechreuais i,  dim ond 8 o blant oedd yn y bore. Fe agoron ni yn y prynhawn ym mis Ionawr a mae’r niferoedd wedi cynyddu a chynyddu. Mae mwy o heriau gyda mwy o blant, a chawson ni sawl plentyn gydag ymddygiad heriol. Hoffwn i ddysgu mwy am ymddygiad heriol.

Disgrifia yn fras dy dyletswyddau.

Helpu i osod yr ystafell yn y bore, casglu plant o’r neuadd, paratoi bwyd a diod, goruchwylio y plant amser bwyd, clirio a thacluso, yn achlysurol dwi’n neud y gofrestr, arwain canu, darllen stori, mynd a phlant i’r tŷ bach, creu a goruchwylio gweithgareddau a’r darn gorau, goruchwylio y chwarae, sef lot o chwarae gyda nhw!

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth mewn 3 gair!

Hwyl, heriol, boddhaol!

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?

Dim ond dechrau ydw i! Wynebu mathemateg oedd yr her fwyaf ond mae deall damcaniaethau am ddatblygiad plant yn gallu bod yn anodd! Dwi eisiau darllen yn fwy eang a dwi’n edrych ymlaen i fynd yn ôl i’r cylch ym mis Medi.