Mae’r llyn, y mynyddoedd a’r afonydd cyfagos i Glan-llyn i gyd yn cynnig opsiynau cyffrous i’r rhai sy’n penderfynu dod yma i aros, am wyliau neu ar gwrs addysgiadol. Dewch i aros!
Mae Glan-llyn wedi cynnig profiadau anturus a diogel i bobl ifanc ers 1950. Mae’r Gwersyll wedi datblygu i fod yn un o brif ganolfannau addysg awyr agored yng Nghymru.
Gyda phedwar penwythnos penodedig ar gyfer teuluoedd yn ystod y flwyddyn, mae digon o gyfle i chi fwynhau gweithgareddau anturus y gwersyll mewn awyrgylch cwbl Gymreig
Mae’r Gwersyll ar agor i’r cyhoedd gyda nifer o gyfleusterau i ymwelwyr neu bobl leol.
Mae adnoddau a chyfleusterau o’r radd flaenaf yn y Gwersyll ar gyfer cyrsiau a chyfarfodydd o bob math. Mae gennym brofiad o gynnal cyfarfodydd bach hyd at gynadleddau a digwyddiadau corfforaethol.