Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd groesi’r bont i Fôn oedd yn 2004, felly mae’r Urdd yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno yn 2026 rhwng y 25ain - 31ain o Fai. Mae disgwyl bydd yr Ŵyl yn denu yn agos at 100,000 o ymwelwyr, a chreu miliynau mewn incwm i’r economi leol.

Yn ogystal â’r cystadlu brwd, bydd arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Gelf a Chrefft, a llwyfannau berfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu trwy’r dydd, bob dydd.

Daw plant, pobl ifanc, ysgolion a theuluoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gystadlu yn yr 378 o gystadlaethau a gynhelir yn yr ŵyl. Caiff plant lleol hefyd y cyfle i fod yn rhan o’r sioeau, prosiectau a digwyddiadau fydd yn arwain at yr Ŵyl.

Mae’r paratoadau ar gyfer yr ymweliad wedi hen ddechrau, pwyllgorau wedi’u sefydlu a gwaith caled yn cael ei wneud i godi arian a dewis testunau. Mae’r pwyllgor gwaith hefyd wedi’u hethol fel y ganlyn: Cadeirydd: Manon Wyn Williams, Is gadeiryddion: Derek Evans, Mari Ann Evans, Llinos Medi, Eirian Stephen Jones, Medwyn Roberts, Ysgrifennydd: Fiona Hughes, Is-ysgrifennydd: Greta Stuart, Trysorydd: Rhys Parry.

Mae’r Eisteddfod yn galw am wirfoddolwyr i helpu â threfniadau’r Ŵyl dros y ddwy flynedd nesaf. Os hoffai unrhyw un ymuno a’r pwyllgor apêl i godi arian, neu bwyllgor celfyddydol, cliciwch y ddolen ar y dudalen yma. Mae croeso i bawb ymuno!

Mae pob ardal sy’n croesawu yr ŵyl yn derbyn targed ariannol, a tharged Ynys Môn yw £380,000, felly bydd angen cymaint o Fonwysion â phosib i helpu i gyrraedd y targed hwn. Mae’r pwyllgorau apêl yn y broses o gael eu sefydlu ar hyn o bryd, ac mae angen gwirfoddolwyr o bob cymuned ar yr ynys i sicrhau bod pwyllgorau yn cael eu creu ar draws y sir. Bydd pob pwyllgor apêl yn derbyn targed unigol, ac yna wedi sefydlu, byddent yn mynd ati i gynnal digwyddiadau dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn casglu arian a chodi brwdfrydedd o fewn eu cymunedau, a sicrhau fod pawb yn rhan o groesawu’r Urdd i’r ardal, felly ewch ati i gofrestru i fod yn rhan o'r hwyl!

Mae’r Eisteddfod hefyd yn galw am enwebiadau ar gyfer Llywyddion y Dydd a Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd ynys Môn 2026. Bydd y Llywyddion y Dydd yn ffigyrau adnabyddus lleol, sy’n cynrychioli’r ynys  a’n esiampl i blant a phobl ifanc heddiw. Bydd y Llywyddion Anrhydeddus yn unigolion sydd wedi rhoi oes o gyfraniad i’r Urdd, trwy wirfoddoli, cefnogi neu hyfforddi. Rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth i blant a phobl ifanc yr ardal, ac wedi gweithio’n dawel ac yn ddi-dor i roi cyfleoedd drwy’r Gymraeg i Ieuenctid eu bro. Gallwch enwebu trwy glicio'r ddolen ar y dudalen yma. 

Os oes gennych unrhyw ymholiad am Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, cysylltwch â eisteddfod@urdd.org . Cofiwch ddilyn Eisteddfod yr Urdd ar eu cyfrifon cymdeithasol am ddiweddariadau'r Ŵyl: @EisteddfodUrdd.