Ein gweledigaeth y tu hwnt i Gymru.

 

 Mae'r Urdd wedi meithrin 4 miliwn o ddynion a menywod ifanc i fod yn falch o'u gwlad, yn agored i'r byd ac yn  ymgorfforiadau byw o'u hiaith a'u diwylliant, ynghyd â'r gwerthoedd cyffredinol yr ydym yn eu gwerthfawrogi yng Nghymru.

 Mae'r Urdd yn sefydliad hollol allweddol ym mywyd Cymru, yn  gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, y BBC, WRU, Gemau'r Gymanwlad, S4C, Wales Arts International i enwi ond rhai.

 Rydyn yn sicrhau mentrau llwyddiannus i bobl ifanc ac yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ehangu ein gwaith yn rhyngwladol trwy brosiectau yn Kenya, Alabama, Iwerddon, Brwsel, Camerŵn, Awstralia , Japan, Patagonia a Hwngari. Rydym am barhau i weithio ochr yn ochr â'n partneriaid i adeiladu ar stori Cymru fel cenedl llwyddiannus, hyderus, fywiog ac agored.

 Mae gan yr Urdd gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod Cymru yn cael effaith gadarnhaol, er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod am Gymru, yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc ac yn dathlu cyfoeth diwylliannol Cymru.

 Mae'r Urdd yn sefydliad unigryw yn y byd, ac rydym am greu pobl ifanc sy'n ymwybodol o’r byd y tu hwnt i Gymru, , ac fe gredwn y gallwn ni gyda’n gilydd dorri tir newydd gan amlygu:

 • beth sy'n unigryw i Gymru

 • ffordd o weithio sydd wrth wraidd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

 • bod yn gyfrifol ar lefel fyd-eang

 Rydym yn falch iawn o'r hyn yr ydym wedi'i gyflawni hyd yma, ac mae’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn parhau.

Prosiectau Diweddar

Dros y blynyddoedd diwethaf, bu'r Urdd yn creu cysylltiadau gwerthfawr rhwng pobl ifanc Cymru a phobl ifanc ledled y byd. Dyma fwy am ein gwaith rhyngwladol diweddar.

Seland Newydd

Rhagfyr 2022

Tîm Rygbi 7 bob ochr yr Urdd yn teithio i Auckland, Seland Newydd ar gyfer y World School Sevens.

Dysgu mwy

Teithiau Cwpan y Bydd

Tachwedd 2022

Qatar, Dubai a Washington D.C.

Dysgu mwy

Iwerddon

Mehefin 2022

Teithiwyd aelodau’r Urdd i Connemara, Iwerddon ym mis Mehefin 2022, er mwyn creu trydydd cyd-gynhyrchiad gydag aelodau o TG Lurgan yn y Gymraeg a'r Gwyddeleg.

Dysgu mwy

Philadelphia

Yn dilyn eu perfformiadau yn Eisteddfod T 2021 ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022, cafwyd Dafydd, Manon, Tomos a Siriol eu dewis i hedfan draw i Philadelphia er mwyn perfformio yn Ŵyl Gogledd America dechrau fis Medi 2022.

Dysgu mwy

Norwy

18 Mai 2022

Lansio Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r canmlwyddiant o Ganolfan Heddwch Nobel, Oslo, Norwy.

Dysgu mwy

Alabama

Ebrill 2022

Côr yr Urdd yn teithio i Alabama yn dilyn partneriaeth rhwng yr Urdd a Birimingham, Alabama.

Dysgu mwy

Camerŵn

Bu Iestyn Tyne, enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019, yn Affrica yn cymryd rhan mewn gŵyl lenyddol.

Dysgu mwy

Awstralia

Bu prentis ac aelod o staff yr Urdd yn  Awstralia yn cynnal gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Haf Gymraeg Sydney.

Dysgu mwy

Japan

Ym mis Hydref 2019 bu’r Urdd yn rhan o daith fasnach a diwylliant Llywodraeth Cymru i sefydlu cysylltiadau rhwng ieuenctid Cymru a ieuenctid Japan.

Dysgu mwy

Patagonia

Mae gan yr Urdd berthynas arbennig gyda Phatagonia ac ers 2008 mae dros 300 o bobl ifanc wedi ymweld â'r Wladfa gyda ni.

Dysgu mwy

Kenya

Taith prentisiaid yr Urdd i Kenya i weithio ag un o brif brosiectau chwaraeon United Purpose, Moving the Goal Posts.

Dysgu mwy

Dwyrain Ewrop

Yn 2013 fe dderbyniodd yr Urdd dŷ yn Hwngari yn rhodd gan Mr Michael Makin. Heddiw, mae Tŷ Kisbodak Ház yn croesawu pobl ifanc o Gymru yn gyson.

Dysgu mwy