Mae Tomos Acreman o Cascade, ger Pengam. Fe wnaeth fynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a bellach mae’n brentis Chwaraeon gyda’r Urdd. Yn ddiweddarcwblhaodd Tom ei flwyddyn gyntaf fel prentis Arwain Gweithgareddau Lefel 2 gyda’r Urdd, a bellach mae wedi cychwyn prentisiaeth Datblygu Chwaraeon Lefel 3. Rydym yn falch iawn o ddatblygiad Tom, wrth iddo ennill y teitl o Lysgennad i’r Coleg Cymraeg yn ogystal ag i’r NTfW (Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru) sy’n cynrychioli darparwyr dysgu yn y gwaith ledled Cymru. 

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Roeddwn eisiau parhau i ddefnyddio’r Gymraeg a dysgu am chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am y brentisiaeth? 

Rwyf wrth fy modd yn hyfforddi gwahanol fathau o chwaraeon i blant trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti? 

Mae’n bwysig iawn i mi wneud fy mhrentisiaeth a fy ngwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mae’n hybu plant o fy ardal i ddefnyddio a charu’r Gymraeg. 

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith? 

Unrhyw beth i wneud gyda chwaraeon! Gall hyn gynnwys rygbi, pêl-droed, dartiau, seiclo a cherdded! 

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di? 

Mae’r brentisiaeth wedi gwneud i mi fod yn berson mwy hyderus. Dwi wedi dysgu llawer o sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth newydd. 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Dwi’n caru gweithio i’r Urdd, felly byddaf wrth fy modd yn aros gyda’r mudiad yn yr adran chwaraeon yn datblygu darpariaeth chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ardal. 

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau. 

Fel hyfforddwr mae'n bwysig ein bod yn darparu gweithgareddau hwyliog i'r holl gyfranogwyr mewn modd diogel ac o dan reolaeth. 

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair! 

Hwyl 

Cyfeillgar 

Anturus