PRENTIS Y MIS - TACHWEDD 2019

Sgwrs gyda Morgan Harvey

 

Cafodd Morgan ei eni a’i magu yng Nghaerdydd, yn ardal Rhymni. Ar ôl cwblhau yn Ysgol Glantaf, roedd Morgan yn ansicr os oedd hi eisiau mynd i’r Brifysgol gan nad oedd hi’n gwybod pa bwnc i ddewis astudio. Ar ôl ystyried ei opsiynau, phenderfynodd ymgeisio i wneud prentisiaeth chwaraeon gyda'r Urdd ac erbyn hyn, mae Morgan yn ei hail flwyddyn yn cwblhau prentisiaeth ‘Datblygu Chwaraeon’.

 

Pam wnaethost ti ddewis ymgeisio i wneud prentisiaeth gyda'r Urdd?

Roeddwn i’n meddwl bod yn gyfle gwych i gychwyn fy nhaith i fod yn hyfforddwr chwaraeon! Mae’r Urdd yn cynnig llawer o gyfleoedd a chymwysterau gwahanol sy’n datblygu unigolion i fod yr hyfforddwyr gorau y gallwch fod. Hefyd roedd cael cyflog am hyn i gyd o fantais mawr.

Yw chwaraeon wedi bod yn rhan fawr o dy fywyd?

Ers i mi fod yn fach, roeddwn efo diddordeb mawr mewn chwaraeon. Dwi wedi nofio yn gystadleuol dros Gaerdydd am 10 mlynedd ac wedi gweld manteision enfawr i hyn. Dwi eisiau helpu pobl eraill i weld manteision chwaraeon hefyd. Mae’n hwyl, yn eich cadw’n iach ac mae’n ffordd wych o wneud ffrindiau newydd!

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Mae gen i ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a chelf a chrefft, a dwi’n mwynhau treulio fy amser sbâr yn ymwneud â hyn. Rwy hefyd hoffi treulio amser efo ffrindiau a theulu.

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am dy swydd?

Gweithio â phlant a gweld eu sgiliau a’u hyder yn cynyddu. Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned chwaraeon ac yn rhoi rhywbeth nol i bob hyfforddwr oedd wedi fy helpu i ar fy nhaith chwaraeon.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae'n bwysig iawn i mi - mae’n agor drysau ar gyfer y dyfodol, ac yn gyfle i mi wella fy Nghymraeg. Mae gallu darparu gwasanaeth chwaraeon drwy’r Gymraeg i blant Caerdydd yn rhywbeth pwysig a gwerthfawr iawn i mi ac i’r iaith!

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae fy hunan hyder a fy hunan gred wedi codi. Erbyn hyn, rwy’n teimlo llawer fwy cyfforddus yn arwain plant a siarad â rhieni. Rwy hefyd yn teimlo fy mod llawer yn fwy creadigol wrth ddysgu a hyfforddi’r plant, ac wedi dysgu sut i drefnu fy hun a sut i weithio o fewn tîm yn effeithiol. Mae’r Urdd wedi rhoi profiadau anhygoel i mi. Rwy wedi derbyn cymwysterau, ymestyn fy ngwybodaeth chwaraeon a magu llawer o hyder er mwyn llwyddo.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Hwyl, Profiadol a Chyfeillgar!