Angharad Lee: Cyfarwyddwr Llawrydd

Mae Angharad yn gyfarwyddwr llawrydd profiadol sydd wedi gweithio ar lu o gynyrchiadau theatr amrywiol. Ty’d i adnabod rôl Angharad fel cyfarwyddwr yn y theatr, sut mae hi wedi cyrraedd ble mae hi, a'i chyngor hi i bobl ifanc heddiw wrth fentro Cefn Llwyfan!

 

Cara Hood: Cynllunydd 

“Nes i edrych e lan ar y we, a darganfod bydysawd o shwt gymaint o bethau roeddwn i’n gallu gwneud yn y byd theatr...” Hyfforddodd Cara ym maes Cefn Llwyfan a sylweddoli ar lu o bosibiliadau. Erbyn hyn mae hi’n gweithio fel Cynllunydd Golau.

Beth mae bywyd cynllunydd golau yn edrych fel o ddydd i ddydd?

 

Alun Saunders: Sgwennwr

“Beth sy’n bwysig ydi taflu syniadau o gwmpas, a peidio poeni o gwbwl am fod yn berffaith!”

O ‘sgwennu dy ddrama gyntaf i archwilio cymeriadau, dyma ‘top tips’ Alun ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn ‘sgwennu!

Luned Gwawr Evans: Cynllunydd Set a Gwisg

“Fel cynllunydd set a gwisg, mae’n rhaid i ni gyfathrebu syniadau mewn ffordd gweledol.”

O ffitio’r un set i bob math o leoliadau i fynegi cymeriad trwy wisg – mae swydd Luned yn un amrywiol a phwysig iawn!

Nia James: Rheolwr Llwyfan llaw-rydd

Dechreuodd Nia ar y llwyfan, cyn penderfynu mai Cefn Llwyfan oedd y lle iddi hi! Dyma hi’n trafod cyffro rheoli sioeau, amrywiaeth ei swydd a’i chyngor hi i unrhyw un sydd â diddordeb dilyn gyrfa tebyg.

Dan Lawrence: Cynllunydd Sain a Chyfansoddwr

Sut aeth Dan i ddilyn gyrfa yn y maes, beth yw ei rôl mewn tîm creadigol ac ei gyngor i bobl ifanc sydd a diddordeb mewn cynllunio sain a chyfansoddi ar gyfer y theatr.