Ystafelloedd cysgu
Mae llety ar gyfer 40 person yng Nglan-llyn Isa', wedi eu rhannu i 10 ystafell wely, 4 llofft ar y llawr gwaelod a 6 llofft ar y llawr cyntaf.

Mae toiledau a chawodydd yn cael eu rhannu, ac wedi eu lleoli ar y ddau lawr. Mae’r gwlâu yn gyfuniad o wlâu sengl, gwlâu bync a 4 gwely dwbl, a’r ystafelloedd yn amrywio o ystafelloedd sengl i ystafelloedd 8 gwely.

Lolfa a chegin
Mae cyfleusterau cegin yng Nglan-llyn Isa' sy’n addas ar gyfer gwasanaeth arlwyo neu drefniant hunan-arlwyo, ac mae Lolfa Prys yn ardal gymunedol â lle i 36 person i fwyta ac ymlacio. Mae teledu a llosgwr coed yn y lolfa, ac mae WIFi trwy’r ganolfan gyfan.

Gardd gymdeithasol
Mae gardd eang yng nghefn y tŷ sy’n cynnwys ardaloedd cysgodol i eistedd, ardal fwyta, cegin awyr agored sy'n cynnwys popty pizza, crochan, barbeciw, oergell a sinc, yn ogystal â golygfeydd bendigedig o’r ardal leol.

Parcio
Mae ardal barcio o flaen y tŷ ar gyfer ceir a bysiau mini, ond gofynnir i ymwelwyr gofrestru yng Ngwersyll Glan-llyn yn gyntaf cyn symud ymlaen i Lan-llyn Isa.

Blaen Glan-llyn Isa'
Blaen Glan-llyn Isa'

Cyfleusterau ychwanegol
Mae Caban Sychu Dillad, Storfa Fagiau a Storfa Offer Awyr Agored ar gael i chi ddefnyddio.

Arwydd i'r Caban Sychu Dillad yng Nglan-llyn Isa'
Arwydd i'r Caban Sychu Dillad yng Nglan-llyn Isa'