Sut i Gyrraedd

Mae Pentre Ifan tua 2 filltir o Drefdraeth, rhwng Abergwaun ac Aberteifi.

O gyfeiriad Abergwaun:

  • Ewch ar yr A487 tuag at Aberteifi.
  • Arhoswch yr y ffordd yma nes gwelwch arwydd brown am siambr gladdu Pentre Ifan a throwch i’r dde gan ddilyn yr arwydd.
  • Dilynwch y ffordd yma nes gweld mynediad Gwersyll Pentre Ifan ar yr ochr dde,  trowch i’r dde i mewn i’r Gwersyll.

O gyfeiriad Aberteifi:

  • Dilynwch yr arwyddion am Abergwaun gan fynd trwy Eglwyswrw a Felindre Farchog.
  • Arhoswch ar y ffordd nes gweld arwydd brown siambr gladdu Pentre Ifan a throwch i’r chwith gan ddilyn yr arwydd.
  • Dilynwch y ffordd yma nes gweld mynediad Gwersyll Pentre Ifan ar yr ochr dde- trowch i’r dde i mewn i’r Gwersyll.

  O gyfeiriad yr M4

  • O Gaerdydd arhoswch ar yr M4 i Bont Abraham.
  • Ewch ymlaen i’r A48 tuag at Gaerfyrddin.
  • Wrth gyrraedd Cylchfan Pensarn yng Nghaerfyrddin trowch ymlaen i’r ail allanfa tuag at Abergwaun.
  • Ar yr ail gylchfan, trowch ymlaen i'r allanfa cyntaf.
  • Arhoswch ar yr A40 hyd gylchfan Penblewin.
  • Cymerwch y trydydd allanfa ymlaen i A478 tua Aberteifi.
  • Arhoswch ar y ffordd nes mynd trwy Blaenffos ac yna trowch i’r chwith tuag at Eglwyswrw (B4332) ac Abergwaun.
  • Ar gyffordd Eglwyswrw ewch i’r chwith ymlaen i A487 tua Abergwaun.
  • Ewch trwy Eglwyswrw a Felindre Farchog.
  • Arhoswch ar y ffordd nes gweld arwydd brown siambr gladdu Pentre Ifan ar yr ochr chwith
  • Dilynwch yr arwydd brown a throwch i’r chwith.
  • Dilynwch y ffordd yma nes gweld mynediad Gwersyll Pentre Ifan ar yr ochr dde- trowch i’r dde i mewn i’r Gwersyll.