PRENTIS Y MIS - GORFFENNAF 2018

Chloe Rees

 

Mae Chloe yn brentis flwyddyn gyntaf yn gweithio yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ym mhae Ceredigion. Fe chafodd Chloe ei magu yn yr ardal ac wedi bod yn ymwneud gyda’r Urdd ers bod yn blentyn.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Aberteifi ac fe wnaeth ennill cymwysterau AS. Roedd Chloe yn awyddus i barhau i astudio ond roedd chwant ganddi i fynd i mewn i’r byd gwaith. Felly, roedd gwneud prentisiaeth yn berffaith i Chloe.

Yn y Gwersyll mae Chloe yn arwain nifer o weithgareddau gwahanol sydd yn amrywio o nofio i feiciau cwad ac o ddringo i sgïo. Mae hwn yn meddwl bod ganddi llawer iawn o brofiad ac yn gyfforddus gydag ystod eang o weithgareddau.

Er bod Chloe yn gweithio ar nifer o weithgareddau,  wrth gwrs mae ganddi ffefryn. Mae Chloe wrth ei ffodd yn gweithio gyda’r ceffylau. Wrth weithio gyda’r ceffylau mae Chloe wedi datblygu fwyaf ac mae’n gallu arwain sesiynau cymhleth i ystod eang o blant. Yn fwy na hynny, mae Chloe yn llwyddo i arwain sesiynau llawn hwyl ac yn annog y plant i ymgysylltu’n llwyr gyda’r gweithgaredd.

Mae’n gweithio tuag at cwblhau NVQ Lefel 2 yn Arwain Gweithgareddau ac hefyd yn ymgymryd â nifer o gymwysterau ychwanegol. 

Yn ei hamser hamdden, mae Chloe‘n chwaraewr hoci arbennig ac mae’n hoff o ware yn y gôl.

Mae Chloe’n awyddus i barhau i ddysgu a gweithio, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu ei gwaith gyda’r ceffylau’n bellach.