Prentis y Mis - Ebrill 2019

Gethin Owen 

Mae Gethin yn dod o Gaerdydd ac ar ôl iddo gwblhau ei lefelau A yn Ysgol Glantaf, fe benderfynodd mai gwneud prentisiaeth chwaraeon fyddai'r opsiwn orau iddo ef.

Mae Gethin bellach dros hanner ffordd trwy ei brentisiaeth Lefel 2, ac yn gweithio tuag at gorffen ei gymhwyster NVQ Arwain Gweithgareddau. Mae Gethin wrth ei fodd yn gweithio yn y byd chwaraeon yn ddyddiol, yn dwli gweithio gyda phlant, ac yn teimlo'n lwcus ei fod yn cael y cyfle yma gyda'r Urdd i ddatblygu ei sgiliau hyfforddi, tra'n ennill amryw o gymwysterau ar yr un pryd!

"Drwy gwneud y prentisiaeth yma efo’r Urdd, dwi’n cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau hyfforddi tra’n ennill cymwysterau sydd yn mynd i helpu fi efo fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i mi gweithio o fewn chwaraeon bob dydd!"- Gethin Owen