Hyd at y 1940au roedd tai a ffermydd ardal Llanuwchllyn yn rhan o Stad Glan-llyn oedd yn eiddo i Syr Watkin Williams Wynne. Roedd Plas Glan-llyn yn cael ei ddefnyddio fel ‘shooting box’ gan ffrindiau Syr Watkin, a Glan-llyn Isa yn gartref i stiward y stad, gyda thenantiaid yn stad yn mynd yno i dalu eu rhenti.

Pan ddaeth Glan-llyn i ofal Urdd Gobaith Cymru yn y 1950au fe ddefnyddiwyd Glan-llyn Isa fel llety ar gyfer bechgyn (gyda’r merched yn cysgu yn y Plas), ac yna o’r 1960au ymlaen fe ddefnyddiwyd Glan-llyn Isa fel cartref ar gyfer staff Glan-llyn a’u teuluoedd, a thros gyfnod o dros 50 mlynedd mi fu ugeiniau lawer o staff y gwersyll yn byw yno am gyfnodau.

Mi fydd dod a Glan-llyn Isa yn ôl i ddefnydd llety yn dod a’r adeilad yn ôl i’w ddefnydd cyntaf gan yr Urdd yn nyddiau cynnar Gwersyll Glan-llyn.