Y Dyddiau Cynnar

Caban pren y ffreutur oedd canolbwynt y Gwersyll bryd hynny. Cafwyd pedair wythnos o wersyll yn yr haf poeth hwnnw yn 1932, gyda lle i 150 o wersyllwyr.

Mynd o nerth i nerth fu hanes y Gwersyll yn 1936 gyda grantiau’r Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol a’r Jubilee Trust yn galluogi mwy o adnoddau a mwy o gabannau.

Yn 1938 cynhaliwyd y Gwersyll cymysg cyntaf yn Llangrannog, cyn hyn roedd un gwersyll i fechgyn ag un i ferched. Hefyd yn yr haf hwnnw cafwyd gwersyll i oedolion oedd am ail fyw eu hieuenctid yma ar arfordir Ceredigion. 

Yn 1939, gyda chymorth grantiau’r Cyngor Iechyd agorwyd campfa yn Llangrannog, a roddodd gyfle i’r Urdd ddatblygu cyrsiau addysg i blant ac ysgolion. Dyma pryd cychwynnodd yr arfer o uno addysg, awyr agored a hamdden. Yn yr un haf agorwyd capel newydd ar safle’r gwersyll.

50au, 60au, a’r 70au

Wrth i Llangrannog brofi yn hynod boblogaidd penderfynodd yr Urdd sefydlu Gwersyll arall ar gyfer aelodau hŷn yr Urdd, sef Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Yn 1967 wedi trychineb erchyll Aberfan pan bu farw 116 o ddisgyblion ysgol Cynradd Pant Glas, croesawyd parti o o blant a rheini i’r Gwersyll yn rhad ac am ddim. Dangosodd y gwersyllwyr eu gwerthfawrogiad trwy gyflwyno trampolîn i’r Gwersyll. 

Yn 1968 prynwyd fferm Cefn Cwrt, sef y fferm lle safai’r Gwersyll am bris o £18,000. Dyma’r pris mwyaf erioed i’r Urdd i dalu am dir hyd yn hyn.

Dyma oedd ddechrau’r Llangrannog newydd. Bu’r 70au yn gyfnod o ddatblygu dwys gyda’r Gwersyll ar agor trwy gydol y flwyddyn gyda staff llawn amser am y tro cyntaf erioed. Mae ambell aelod o’r staff yna yn dal i fod yma heddiw!

Adeiladwyd caban bwyta a blociau cysgu newydd, ac erbyn diwedd y 70au gwelwyd pob math o weithgareddau ac adnoddau newydd gan gynnwys sgubor fawr, pwll nofio, ysbyty, siop a champfa newydd.

 

80au a'r 90au

Parhau wnaeth y datblygiadau yn yr 80au cynnar wrth i grantiau’r Swyddfa Gymreig alluogi’r Gwersyll i ehangu ac adeiladu neuaddau, ystafelloedd gwaith, stordy, sied feics a bloc cysgu newydd. 

Gwelwyd datblygiad enfawr yn yr Adran Weithgareddau rhwng 1987 a 1991, gyda llethr sgïo yn cael ei adeiladu, pwll nofio newydd a llwybr ceffylau. 

Yn ystod y 90au adeiladwyd bloc cysgu Hafod  gyda ystafelloedd en-suite.

Llety_-_EW_-_566x268.jpg

 Datblygiadau diweddaraf

Yn negawd gyntaf y ganrif newydd cafwyd buddsoddiad o £5.5 miliwn i godi bloc cysgu newydd sbon, Cilborth sy’n lletya dros 200 mewn ystafelloedd en- suite, Canolfan Hamdden Syr Ifan, Canolfan Treftadaeth – Cae’r Chwedlau a maes parcio pwrpasol ar gyfer y gweithlu cynyddol. Rydym bellach wedi gweld dyfodiad Canolfan Dringo, Bloc Cysgu Eleanor, a Phrosiect Cynaliadwyedd. Mae’r Gwersyll yn parhau i dyfu a datblygu – a edrychwn ymlaen tuag at y dyfodol!  

Main_Hall_Interior_Photoshop.jpg

Y Dyfodol

Mae yna ddatblygiadau cyffrous ar y gweill – bydd yna weithgaredd newydd yn Ardal Antur Llangrannog – weiren zip! Bydd y Weiren Zip ynghyd a thwr dringo newydd ar agor yn fuan yn 2018 i wersyllwyr ac ar agor i’r cyhoedd.

Yn ogystal mae cynlluniau ar y gweill i drawsnewid ‘calon’ Gwersyll Llangrannog, sef y caban bwyta, neuadd ymgynnull a’r gegin mewn buddsoddiad gwerth £3 miliwn. Mae penseiri wedi eu penodi i ymgymryd â’r gwaith dylunio ac rydym yn y broses o godi’r cyllid ar gyfer y datblygiad. 

Gobeithiwn y bydd y gwaith yn cychwyn yn 2018 gan wella ein darpariaeth ac adnoddau ar gyfer cenhedlaeth newydd o wersyllwyr.