Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2026
Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd yn canolbwyntio ar Ieithoedd Lleiafrifol. Pwrpas y Neges yw addysgu pobl ar draws y byd am yr ieithoedd hyn, ac annog iddynt eu gwerthfawrogi, eu dysgu a’u defnyddio. Mae’r Neges yn agor trafodaeth ehangach am rôl iaith mewn empathi, cydraddoldeb a dealltwriaeth o’r byd o’n cwmpas.
Gyda dros 7,000 o ieithoedd ledled y byd, ac arbenigwyr yn rhagweld y bydd hanner ohonynt wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif, mae’r Neges yn datgan yn glir yr angen i ni ddiogelu ieithoedd lleiafrifol cyn iddynt ddiflannu am byth.
Cafodd cynnwys a thrywydd neges eleni ei benderfynu gan fyfyrwyr Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria, Ysgol Morgan Llwyd ac Aelodau’r Urdd. Cynhaliwyd gweithdy ym Mhrifysgol Wrecsam ddiwedd Ionawr, ac yn dilyn y gweithdy aeth y bardd Marged Tudur ati i greu geiriau’r Neges, gyda Sioned Evans (Smei) yn creu animeiddiad o’r geiriau.
Mae geiriau’r neges ar gael mewn sawl iaith, ac mae pecyn addysg gan Dr Ianto Gruffydd ar gael yma ar ein gwefan. Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os ydych eisiau cefnogi’r ymgyrch, cysylltwch â ni.
Heddwch@urdd.org
Mae heddwch yn siarad pob iaith
Cefnogwch ni drwy rannu fideo Neges Heddwch eleni ar 19 Mai
#Heddwch2026
#Heddwch2026

Y Neges:

Galeri'r Gweithdy