Sefydlwyd Glan-llyn fel Gwersyll yr Urdd yn y flwyddyn 1950. Yr oedd wedi bod yn freuddwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards sefydlu gwersyll parhaol yn y gogledd a gwelodd ei gyfle pan ddaeth plasdy Glan-llyn ar rent yn niwedd y 40au. Cyn hynny yr oedd y plasdy wedi perthyn i deulu y Wynnstay o ardal Rhiwabon ac arferai ddefnyddio y lle fel llety gwyliau y teulu ar gyfer pysgota a saethu. Ar y dechrau yr oedd y gwersyllwyr yn cyrraedd ar y trên yr ochor arall i’r llyn, gyda’r Brenin Arthur yn eu cludo draw i’r Gwersyll. Sylfaenol iawn oedd yr adnoddau yn y gwersyll ar y dechrau, er hynny doedd dim trafferth denu cenedlaethau o blant a phobl ifanc a dyrrai yno i gymryd rhan yng ngweithgareddau awyr agored ar Lyn Tegid, ar y mynyddoedd o gwmpas ac wrth gwrs i wneud ffrindiau newydd o bob cwr o Gymru. Yn ystod y blynyddoedd cynnar aelodau hŷn yr Urdd arferai ddod i Lan-llyn, gyda phlant iau yn mynychu Llangrannog. Llwyddodd yr Urdd i brynu Glan-llyn yn 1964 a datblygodd y lle fel canolfan bwysig ar gyfer ieuenctid Cymru gyda channoedd yn heidio yno ar gyfer y gwersyll haf, a phenwythnosau drwy’r flwyddyn. Ar y pryd y swogs fyddai yn arwain y gweithgareddau ee canŵio, dringo, hwylio, cerdded ac wrth gwrs y gweithgareddau cymdeithasol fin nos. Mae llawer yn cofio y cyfnod am y bwrlwm cerddorol hefyd gyda nifer o fandiau a chantorion pop y cyfnod yn ymwelwyr cyson.
Dros y blynyddoedd wrth gwrs mae y gwersyll wedi datblygu, nid yn unig o ran adeiladau a chyfleusterau ond o ran yr arlwy o weithgareddau a gynigir, ac hefyd o ran yr ystod oedran sydd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Erbyn hyn mae 13,000 o wersyllwyr yn ymweld â Glan-llyn yn flynyddol a rheini yn mwynhau cyfleusterau llety a gweithgareddau o’r safon uchaf. Gyda’r datblygiadau diweddaraf gallwn sicrhau y bydd cenedlaethau o wersyllwyr y dyfodol yn mwynhau yr un awyrgylch unigryw ar lan Llyn Tegid.