Trwy weithgareddau a chyfleodd gyda’r Urdd mae’n bosib i chi ennill achrediadau a chymwysterau penodol

 Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill achrediadau a chymwysterau.  Cynigir amryw o gyfleoedd iddynt wneud hyn.  Yn bennaf drwy brofiadau, darpariaeth a’r cyfleoedd gwirfoddoli maent yn eu derbyn trwy'r Urdd. 

Dyma rhestr o rai o’r achrediadau a chymwysterau a gynigir:-

  • Unedau a chymwysterau Agored Cymru yn y meysydd canlynol – Ymarfer gwaith Ieuenctid; Gwirfoddoli; gweithio mewn tîm; cyfrannu at gyfarfodydd; barn pobl Ifanc a chyfranogi; ymwybyddiaeth iaith ac unedau dewisol yn unol a gofynion y grŵp o ystod 16-19 Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg sy’n Berthnasol i’r Gweithle.
  • Cydnabod ymrwymiad ac oriau gwirfoddoli a/neu Swoggio – trwy dystysgrifau’r Urdd a thystysgrif Gwirfoddolwyr Y Mileniwm
  • Cymwysterau Cymorth Cyntaf
  • Gwobr John Muir
  • Achrediadau a chymwysterau Chwaraeon ac Awyr agored – amrywiaeth eang yma a darperir gan yr adran Chwaraeon a’r Adran Awyr Agored / Gwersylloedd.  Mae’r rhain hefyd yn cynnwys achrediadau/cymwysterau sy’n datblygu arweinwyr a hyfforddwyr gweithgareddau chwaraeon
  • Gwobr Dug Caeredin
  • Cynllun Prentisiaeth Chwaraeon

Mae’r cynnig yn cael ei deilwra i anghenion y grŵp/unigolyn.  Mae’r maes achredu yn medru newid yn ôl anghenion y bobl Ifanc.

Yn bennaf cynigir achrediadau i bobl ifanc 16 oed+.  Nid yw yn orfodol ac mae’r nifer a gynigir yn ddibynnol ar y cyllid sydd ar gael, gan fod yna cost darparu a gweinyddu achrediadau.  Darperir yr achrediadau mewn cydweithrediad agos y cyrff dyfarnu.  Ar gyfer achrediadau Agored Cymru rydym yn cydweithio gydag Addysg Oedolion Cymru.

Ystod eang o gyrsiau ac achrediadau

Mae’r ddarpariaeth sydd gennym yn amrywio o gymorth cyntaf i dystysgrif mewn gwaith ieuenctid i gymhwyster dyfarnu rygbi. 

I drafod eich anghenion ac am fwy o wybodaeth cysylltwch a ieuenctid@urdd.org