Sgwrs Gyda Jody Cain

Prentis y Mis - Gorffennaf 2021 

Mae Jody Cain yn dod o Gaernarfon, Gwynedd. Fe aeth i Ysgol Gynradd Hendre ac yna i Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen cyn penderfynu gwneud prentisiaeth gyda’r Urdd. Dyma ychydig o’i hanes...

Pam wnaethost ti benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?

Mi wnes i benderfynu ceisio am brentisiaeth gyda’r Urdd gan fy mod wedi cael llawer o brofiadau gwerthfawr o fynychu sesiynau’r Urdd ers bod yn blentyn. Yn ogystal â hyn, dwi wrth fy modd gyda chwaraeon felly roedd y cyfle i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd gan weithwyr profiadol yn gyfle perffaith i mi! 

Beth wyt ti’n mwynhau mwyaf am y brentisiaeth?

Y rhan rwy’n Mwynhau fwyaf yw gweld yr holl gyfranogwyr yn mwynhau eu hunain yn y sesiynau ac mae gweld y datblygiadau gan y cyfranogwyr o un tymor i’r llall yn bleser i’w gweld. Yn ogystal â hyn, dwi’n mwynhau hyfforddi sesiynau gyda hyfforddwyr eraill sydd yn helpu mi i ddatblygu a dysgu gymaint fwy er mwyn gwella fy hun o fewn y meysydd chwaraeon gwahanol.

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?

Mae cael gwneud fy mhrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl llawer i mi! Dwi’n meddwl ei fod yn holl bwysig defnyddio gymaint o’r Gymraeg a phosib ac mae gallu gwneud hyn drwy hyfforddi sesiynau’r Urdd gyda phlant o bob oedran ar hyd a lled Gogledd Cymru yn bleser mawr.  

Beth yw dy ddiddordebau tu allan i’r gwaith?

Fy niddordebau tu allan i’r gwaith ydi treulio fy amser gyda theulu a ffrindiau yn yr awyr agored. Fy hoff ddiddordebau yw pêl-droed a rhedeg. Rwyf yn aelod o glwb rhedeg Eryri a chlwb pêl-droed Merched Bethel. Does dim byd gwell nag ymarfer a mynychu gemau ar y penwythnos gyda’r tîm gorau.

Ym mha ffordd mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?

Mae gwneud y brentisiaeth wedi effeithio llawer ar fy natblygiad personol. Dwi’n teimlo llawer mwy hyderus wrth hyfforddi sesiynau a chyfarfod pobl newydd a gweithio gydag eraill. Dwi hefyd llawer mwy cyfforddus yn delio gyda heriau amrywiol.

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth?  

Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth dwi’n gobeithio parhau i weithio yn y maes chwaraeon.

Disgrifia yn fras eich dyletswyddau.

Mae fy nyletswyddau yn newid drwy’r amser, ond y prif ddyletswyddau ydi cynnal sesiynau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn amrywiaeth o ysgolion gwahanol ar draws ardal Eryri, a chynnal amrywiaeth o glybiau chwaraeon yn fy ardal.

Disgrifia dy brofiad o wneud prentisiaeth gyda'r Urdd mewn 3 gair!

Cyffrous

Profiadol

Buddiol