Mae Yusuf yn dod o Drelluest (Grangetown), Caerdydd.  Mae e’n brentis Amrywiaeth a Chynhwysiant Datblygu Chwaraeon Lefel 3 ac mae e’n helpu i trefnu gweithgareddau ar draws y ddinas.  Mae e hefyd yn gwneud cymwysterau Sgiiau Hanfodol efo ni ac yn dysgu Cymraeg.  Mae wedi cael i enwebu am defnyddio’r Cymraeg mae wedi dysgu ac am i waith caled a chyson.  

Pam wnes di benderfynu ymgymryd â phrentisiaeth gyda'r Urdd?  

Rydw i erioed wedi bod yn angerddol am chwaraeon a dwi’n credu bod gan chwaraeon y pŵer i ddod â phobl at ei gilydd a chreu cymdeithas fwy cynhwysol. Wnes i gael fy nenu tuag at brentisiaethau'r Urdd am eu hymrwymiad tuag at amrywiaeth a chynhwysiant. Roeddwn i hefyd yn gwybod y byddai hyn yn gyfle da i ddysgu o arbenigwyr yn y maes. 

Ym mha ffordd mae datblygu dy sgiliau (Rhifedd, Cyfathrebu neu Lythrennedd Digidol) wedi cyfrannu tuag at dy brentisiaeth? 

Mae datblygu fy sgiliau rhifedd, cyfathrebu a llythrennedd digidol wedi bod yn hanfodol i fy mhrentisiaeth.  Rydw i wedi defnyddio'r sgiliau yma i gofnodi fy nghynnydd, cyfathrebu yn effeithiol efo fy nghydweithwyr a chreu cynnwys deniadol ac o ddiddordeb.  Mae’r sgiliau yma hefyd wedi helpu efo datrys problemau a meddwl dwys sydd yn hanfodol i lwyddo mewn unrhyw faes. 

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy swydd a sut mae ymgymryd â Sgiliau Hanfodol wedi effeithio ar dy swydd?  

Y peth dwi’n mwynhau fwyaf yw’r cyfle i wneud newid cadarnhaol ar fywydau pobl eraill.  Rydw i’n caru gweld yr hapusrwydd ar wynebau pobl mewn sesiynau sydd efallai heb gael mynediad atyn nhw o’r blaen. Mae gwella fy sgiliau hanfodol wedi fy helpu i fod yn fwy effeithiol yn fy rôl ac yn gallu helpu mynychwyr y clybiau yn well. 

Beth mae ymgymryd â phrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn meddwl i ti?  

Rydw i’n falch iawn o gwblhau fy mhrentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o fy hunaniaeth a dwi’n benderfynol o hybu a chadw’r iaith.  

Ym mha ffordd mae gwneud Sgiliau Hanfodol fel rhan o dy brentisiaeth wedi effeithio ar dy ddatblygiad personol di?  

Mae gwneud y sgiliau hanfodol fel rhan o’r brentisiaeth wedi cael effaith syfrdanol arnaf.  Rydw i wedi magu hyder a nawr yn gallu cyfathrebu yn fwy effeithiol. Rydw i hefyd yn fwy trefnus ac yn gallu rheoli fy amser ac adnoddau yn well.  Mae’r sgiliau yma wedi fy helpu i fod yn berson mwy cymwys ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle i ddatblygu 

Beth wyt ti’n gobeithio gwneud ar ôl cwblhau’r brentisiaeth? 

Ar ôl orffen fy mhrentisiaeth, hoffwbarhau i weithio o fewn yr adran Chwaraeon.  Rydw i wir yn mwynhau gweithio efo pobl ifanc a’i helpu nhw i ddatblygu eu talentau chwaraeon.  Rydw i hefyd yn gobeithio defnyddio fy sgiliau a gwybodaeth i hybu amrywiaeth a chynhwysiant o fewn chwaraeon.   

Disgrifia dy brofiad o wneud Sgiliau Hanfodol gyda'r Urdd mewn 3 gair!  

Buddiol. Heriol. Ysbrydoledig. 

Hoffet ti ychwanegu rhywbeth ynglŷn â dy stori? Sut wyt ti wedi cyrraedd ble wyt ti nawr? Beth oedd / yw dy her fwyaf?   

Mae fy siwrnai i fod yn Brentis Y Mis wedi bod yn heriol ac yn fuddiol.  Rydw i wedi dysgu gymaint am fy hun a fy ngalluoedd. Rydw i wir yn ddiolchgar am gefnogaeth fy nghydweithwyr a mentoriaid.  Mae’r sialens fwyaf wedi bod curo fy hunan amheuaeth. Rydw i wedi dysgu fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth a dw i’n gyffrous i weld beth sydd yn y dyfodol i fi.