Rosina Catrin Jones o Gaerdydd yw Prif Ddysgwr Eisteddfod T, yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed. Mae Rosina, neu Rosie fel caiff ei galw, yn ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn 18 oed.
Datgelwyd yr enillydd mewn seremoni arbennig oedd yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Nia Parry, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o’u cartrefi. Mae’r Eisteddfod T arloesol, lle mai ar-lein mae’r holl gystadlu, ar ei hail ddiwrnod o ddarlledu ar ôl diwrnod gorlawn a llwyddiannus ddoe.
Mae Rosie yn ymddiddori mewn ieithoedd ac yn ymarfer ei Chymraeg gyda’i thad-cu sy’n deall ychydig bach o Gymraeg a gyda’i ffrindiau ar-lein. Mae’n gobeithio yn y pen draw bod yn athrawes ieithoedd tramor mewn ysgol Gymraeg.
Meddai: “Hoffwn i astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym mhrifysgol Bryste ond nawr dw i eisiau cymryd blwyddyn i ffwrdd llawn o ieithoedd, ysgrifennu, canu’r piano a gitâr, ioga a dringo os dw i’n gallu!”
Mae Rosie hefyd yn rhan o grŵp sy’n helpu’r gymuned yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Yn ei beirniadaeth, cyfaddefodd Nia Parry i gais Rosie ei gwneud yn emosiynol iawn.
“Wrth wylio fideo Rosie, mi wnes i golli deigryn,” meddai. “Mi wnaeth ei neges gyffwrdd fy nghalon. Roeddwn yn gallu uniaethu gyda'r hyn roedd hi'n ei ddweud am "eiriau yn ei hudo". Mae hi’n ein hannog i ddefnyddio 'geiriau' i gofnodi a rannu ein teimladau yn y cyfnod yma - i ddweud wrth pobl ein bod ni'n eu caru nhw ac i ddiolch i bobl.
“Mae gweld person ifanc fel Rosie yn dysgu'r iaith i'r fath safon a'i chlywed yn sôn am fel mae hi'n caru'r Gymraeg a'n hanes a'n diwylliant ni wedi rhoi gobaith a phleser i mi.”
Mae Rosie yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin.
Yn ail mae Luke Parfittac yn drydydd maeNiomie Griffiths, y ddau o Ysgol Gyfun Aberpennar.