Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer plant blynyddoedd 7-9. Cymraeg yw iaith y cwrs.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
24 Gorffennaf 2022
Pa mor hir mae'n para?
3 noson
Pris
£195 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Gwyliwch am flas o wersyll haf yng nglan-llyn!
Enghraifft o ddiwrnod
Amserlen | Gweithgaredd |
---|---|
Brecwast | Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi |
Bore | Bore llawn antur yn gwneud gweithgareddau sych - cwrs rhaffau a dringo |
Cinio | Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn! |
Prynhawn | Prynhawn gwlyb ar y llyn yn ceufadu a rhwyfyrddio |
Te | Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta |
Ar ôl te | Saethyddiaeth |
Swper | Digonedd o fwyd ar ôl diwrnod prysur |
Ar ôl swper | Canŵio i Langywer yng ngolau'r machlud i gael tân, cân a malws melys ar ochr y mynydd cyn swatio mewn Bifi am noson o gwsg gwyllt! |
*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.
Llety
Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar, chwech
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Galeri





































