Ydych chi’n teimlo’n reddfol am natur? Oes gyda chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa o fewn y sector cynaliadwyedd a Chadwraeth?

Dyma gyfle euraidd i chi ennill profiad mewn gwahanol agweddau ar y sector gan gynnwys sesiynau ymarferol, sgyrsiau gan gyflogwyr a rhai sy'n gweithio o fewn sefydliadau natur a chadwraeth yn ogystal â gweithgareddau hwyl megis arfordiro. 

Os rydych ar ganol ymgeisio am eich Gwobr Dug Caeredin Aur- mae'r cwrs yma yn berffaith am agwedd Gwrs Preswyl y Wobr.

Mae'r cwrs preswyl 5 diwrnod hwn yn cynnwys:

• Teithiau tywys a gweithgareddau mewn amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys ucheldir (bryniau Preseli) Arfordir (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) a Choetir (Gwarchodfa Natur Coed Tŷ Canol).

• Sesiynau a gweithgareddau sy'n eich galluogi i gwrdd â derbyn cyngor gan gyflogwyr yn y sector amgylcheddol ar lwybrau posibl i yrfa amgylcheddol.

• Sesiynau cadwraeth ymarferol gan gynnwys cynnal arolygon natur a bywyd gwyllt, dilyn olrhain rhywogaethau penodol fel mamaliaid bach, hyrwyddo cynefinoedd adar, a nodi rhywogaethau o ddiddordeb.

• Sesiwn arfordiro ar hyd clogwyni mawreddog Sir Benfro.

• Gweithdai amrywiol ar thema cynaliadwyedd a chadwraeth.

 

Pryd mae'r gwersylloedd yn cael eu cynnal ac ar gyfer pwy?

Dydd Llun 27 Gorffennaf tan ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026 - Pobl ifanc 15-19 neu bl. 10,11,12 a 13

Pa mor hir mae'n para?

4 noson

Pris

£320 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Cynllun talu rhandaliadau ar gael. 

Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Llety

Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at chwech neu wyth.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

 

Amserlen: 

 

Llun:

11am- Cyrraedd, ystafelloedd ac dod I adnabod y safle

12:15- Cinio

13:00-17:00- Sesiwn Cynefin COedwig yng Nhgoedwig Hynafol Ty Canol

18:00- Swper

19:00- Gemau Torri Ia a ddod I adnabod ein gilydd

 

Mawrth:

8:15- Brecwast

9:00- Sesiwn Cadwraeth gyda Parcmon o Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

12:15- Cinio

13:00- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys yn yr Awyr Agored (tystysgrif gyda hwn)

15:00-  Te

15:30- Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys yn yr Awyr Agored (tystysgrif gyda hwn)

18:00- Swper

19:00 – Seswin Ailgylchu gyda Cadwch Cymru’n Daclus

21:00- Sesiwn Serydda

 

Mercher

8:00 Brecwast

9:00- Teithio I Pen Strwmbl I gwneud Arolwg Dolffiniaid a Morloi

12:00 Cinio

13:00- Arfordiro yn Abereiddi

18:00- Swper

19:00- Sgwrs gan Car y Mor- fferm gwymon adnewyddol cyntaf Cymru a cyfle I blasu gwymon

20:30- Taith Creaduriaid y Nos a Natur Biofflworoleuol

 Iau

8:00- Brecwast

9:00- Arolwg Natur Afon (Kicksampling)

11:30-12:30- Seswin Gyrfa gyda Dwr Cymru

12:30- Cinio

13:30-15:30- Sesiwn Labordi gyda Darwin Centre

15:30- Egwyl

16:00- Seswin Pyllau Trai a Natur yr Arfordir ar y traeth gyda Darwin Centre

18:00 Swper

19:00- Trip Cwch Dolffiniaid

  

Gwener

8:00- Brecwast a Pacio

9:30- Sesiwn Ynni Gwyrdd gyyda Trydan Werdd

12:15- Cinio

13:00- Arwyddo papurau Dug Caeredin a sesiwn Actifiaeth Creadigol

15:00 - Ymadael